Bydd Tom Billington yn ymuno ag Ysgol Peirianneg Prifysgol Princeton yn New Jersey fis Medi yma.
Mae’r sefydliad, sy’n un o’r goreuon yng Ngogledd Ddwyrain American, yn cyfrif cyfarwyddwr sefydlu Amazon Jeff Bezos a chyn Prif Foneddiges yr Unol Daleithiau Michelle Obama ymysg ei gyn fyfyrwyr.
Enillodd Tom, cyn disgybl Ysgol Uwchradd y Rhyl, le yn y brifysgol ar ôl ennill y graddau yr oedd eu hangen arno ym Mathemateg, Mathemateg Bellach Safon Uwch, Ffiseg, Dylunio Cynnyrch a’r Her Sgiliau yng Ngholeg Cambria.
Meddai Tom, 18 oed “Mae Princeton yn Goleg Celfyddydau Rhyddfrydol ac er fy mod i’n gwybod y bydda’ i’n astudio yn yr Ysgol Peirianneg rydw i dal angen dewis prif bwnc i ganolbwyntio arno. Mae gen i ddiddordeb mewn peirianneg sifil ac amgylcheddol yn ogystal â gwyddor deunyddiau,”
“Mae’r byd artiffisial sydd i’w weld o’n cwmpas wedi ennyn fy niddordeb o’r cychwyn cyntaf a dyma wnaeth sbarduno fy niddordeb mewn peirianneg ehangach.
“Rydw i’n mwynhau pynciau academaidd yn ogystal â phynciau creadigol ac mae peirianneg yn rhoi’r cyfle perffaith i mi gyfuno’r rhain.”
Wrth ddiolch i’r staff yng Nghanolfan Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy am eu hanogaeth yn ystod y pandemig Coronafeirws dywedodd Tom: “Roeddwn i wir wedi mwynhau fy nghyfnod yn y coleg. Gwnes i lawer o ffrindiau arbennig, cyfarfod â phobl anhygoel a chefais fy nysgu gan diwtoriaid bendigedig.
“Roedd y tiwtoriaid wedi llwyddo i gadw momentwm fel petawn ni yno yn y cnawd, yn enwedig yn ystod y cyfnodau clo, trwy ddysgu ar-lein a dysgu cyfunol.
“Byddwn i’n sicr yn argymell Coleg Cambria i bawb a does dim amheuaeth na fyddwn i wedi cael y cyfle i astudio dramor yn y brifysgol heb eu cymorth.”
Cyfeiriodd Tom yn arbennig at Mims Riddell, Pennaeth Chweched Glannau Dyfrdwy a Phennaeth Cynorthwyol Coleg Cambria
“Hi yw un o’r prif resymau fy mod yn mynd i astudio yn Princeton,” meddai.
“Er bod y drefn ymgeisio yn wahanol iawn i’r drefn sydd yma yn y DU roedd Mim yno yn fy annog ar bob cam o’r daith. Hefyd cefais gymorth trwy raglen y Sutton Trust US sy’n helpu myfyrwyr Prydeinig ar incwm isel i edrych ar y posibilrwydd o astudio yn yr Unol Daleithiau. Maen nhw’n rhoi cymorth wrth chwilio am brifysgol, gyda’r broses ymgeisio a phob dim arall.
“Roeddwn i wedi bod eisiau mynd i sefydliad Rhydgrawnt erioed, ond, ar ôl gweld rhaglen y Sutton Trust yn cael ei hysbysebu penderfynais fynd amdani. Wrth imi ymgeisio bron i ddwy flynedd yn ôl feddyliais i erioed y byddwn i erbyn hyn ar fy ffordd i’r UD am y pedair blynedd nesaf ac rydw i’n gyffro i gyd wrth feddwl am yr hyn sydd i ddod.
Wrth iddi longyfarch Tom ychwanegodd Mim “Mae o’n un o’r myfyrwyr mwyaf gweithgar a phenderfynol y gallech ei gyfarfod. Rydyn ni mor falch ohono ac yn dymuno pob llwyddiant iddo ym Mhrifysgol Princeton.”
Ewch i www.cambria.ac.uk am ragor o wybodaeth am yr ystod eang o gyrsiau a chymwysterau sydd ar gael yng Ngholeg Cambria