Bydd myfyrwyr o Chweched Iâl Coleg Cambria yn Wrecsam yn dechrau bywyd yn nau o brifysgolion gorau’r byd ym mis Medi.
Mae Megan Kocker, Cadence Thompson, a Joe Williams wedi cael cynnig lleoedd yn Rhydychen a Chaergrawnt ar ôl cyflawni canlyniadau Safon Uwch rhagorol.
Cafodd Megan A*s mewn Llenyddiaeth Saesneg, Hanes, Mathemateg, Cymraeg Ail Iaith a Bagloriaeth Cymru a bydd yn astudio’r Gyfraith yng Ngholeg Selwyn, Caergrawnt.
Mae Cadence, a gafodd A* mewn Iaith Saesneg, A mewn Llenyddiaeth Saesneg, a A mewn Ffilm, yn edrych ymlaen at fywyd ym Mhrifysgol Rhydychen, lle bydd yn dechrau gradd mewn Astudiaethau Japaneeg.
Yn y cyfamser bydd Joe sy’n 18 oed, a aeth i Ysgol Maelor yn Llannerch Banna, yn astudio Ieithyddiaeth yng Ngholeg Fitzwilliam, Caergrawnt. Cafodd XX mewn Ffrangeg, XX mewn Iaith Saesneg a’r Cyfryngau, a chymhwyster UG mewn Cymraeg Ail Iaith. Mae’n gobeithio mynd ymlaen i fod yn ddarlithydd ac ymchwilydd mewn Ieithyddiaeth.
Bu Simon Woodward, Pennaeth Cynorthwyol a Phennaeth Chweched Dosbarth Iâl, yn llongyfarch Megan, Cadence a Joe am eu llwyddiant gan ddymuno’n dda iddynt ar gyfer y dyfodol. “Rydyn ni’n falch iawn ohonyn nhw a’r tîm anhygoel yma yn Iâl sy’n gwneud popeth yn eu gallu i wneud yn siŵr bod y dysgwyr yn cael y cyfle gorau i ddilyn eu llwybr gyrfa ddewisol – diolch.”
Dywedodd Megan: “Mae fy nhiwtoriaid pwnc wedi bod yn wych ac wedi gwneud eu gorau glas bob amser i gynnig cymorth dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Dwi wedi mwynhau fy nghyfnod yn y Coleg yn fawr iawn oherwydd hynny.”
Ewch i www.cambria.ac.uk i gael rhagor o newyddion a gwybodaeth gan Goleg Cambria.