Background Splash

Gan marketing

IMG_0444_(1)

Bu’r Prif Weithredwr Yana Williams yn canmol myfyrwyr a oedd yn cael eu canlyniadau Safon Uwch a BTEC heddiw (dydd Iau) a dywedodd fod y ffigurau cyffredinol yn “hynod o gadarnhaol”.

Gan ganolbwyntio ar gyflawniadau “anhygoel” dysgwyr a staff yng Nglannau Dyfrdwy, Llaneurgain, Llysfasi a Wrecsam, dywedodd Ms Williams fod eu hymagwedd at ymdrechu am ragoriaeth academaidd er gwaethaf cymaint o heriau yn destun balchder mawr.

“Mae hwn wedi bod yn gyfnod heb ei ail, o gloi i lawr a hunan-ynysu i ddysgu o bell ac yn olaf dychwelyd i’r ystafell ddosbarth,” meddai.

“Mae’r canlyniadau a gawson ni heddiw yn galonogol, ond yr hyn sy’n coroni’r cwbl i mi yw’r hyblygrwydd a’r ymroddiad y mae’r myfyrwyr wedi’i ddangos yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

“Maen nhw wedi wynebu popeth a gafodd eu taflu atynt yn uniongyrchol a byddant yn symud ymlaen gyda hyder a phositifrwydd.

“Dwi’n diolch iddyn nhw, ein staff anhygoel a’r gymuned am fod mor ysbrydoledig drwy gyfnod mor anodd i bawb.”

Dywedodd y Pennaeth, Sue Price mai’r flaenoriaeth dros yr wythnosau nesaf fydd gwneud yn siŵr bod yr holl fyfyrwyr yn barod ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, gan gynnwys y rhai fydd yn ymuno â nhw o ysgolion uwchradd ar draws y rhanbarth.

“Rydyn ni’n dymuno’r dyfodol gorau i’r holl fyfyrwyr sy’n cael eu graddau heddiw, boed hynny mewn addysg uwch neu’r cam nesaf tuag at eu gyrfa ddewisol,” meddai Mrs Price.

“Mae eu gallu i lwyddo ac aros yn gryf ar ôl yr holl heriau yn dyst iddyn nhw, ac i’r darlithwyr a’r staff cymorth yma yn Cambria, am ddangos arloesedd a gofal.

“Rydyn ni i gyd wedi dysgu o hyn a byddwn yn mynd ymlaen i fod yn sefydliad cryfach hyd yn oed, gyda’n dysgwyr wrth wraidd popeth a wnawn.

“Rydyn ni mor falch o’r ffordd maen nhw wedi llywio un o’r cyfnodau mwyaf cythryblus erioed – mae’n ysbrydoliaeth i ni gyd.”

I gael rhagor o wybodaeth am ganlyniadau Safon Uwch a BTEC Coleg Cambria, ewchi www.cambria.ac.uk

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost