Mae cymwysterau hyblyg, proffesiynol a hyfforddi ar gael o safleoedd Cambria yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llaneurgain a Llysfasi, yn ogystal â chyfleusterau cymunedol yn y rhanbarth.
Maen nhw wedi’u dylunio i wella ac ehangu sgiliau gwaith a datblygu gyrfaoedd, gall ymgeiswyr astudio unrhyw beth o wneud printiau a chymorth cyntaf yn y gwaith, i wneud coctels, blodeuwriaeth a thwtio cŵn.
Ymhlith y sefydliadau achredu sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r coleg mae IOSH, Llywodraeth Cymru, City and Guilds, Lantra, CIPD, Prince2 a Dysgu Cymraeg.
Mae’r Pennaeth Sue Price yn annog pobl sydd mewn cyflogaeth neu sy’n chwilio am gyfle newydd i gysylltu i ddarganfod rhagor.
“Mae’r amrywiaeth eang o gyrsiau rhan amser sydd gennym ni ar gael yn dangos ein cysylltiadau agos gyda’r diwydiant a rhai o brif gyrff dyfarnu yr wlad,” meddai hi.
“P’un ai mae gennych chi swydd yn barod ac rydych chi eisiau uwchsgilio, neu rydych chi’n gobeithio newid eich gyrfa, neu rydych chi awydd cyfarfod â phobl newydd a dysgu rhywbeth newydd, mae yna gwrs i bawb.
“Mae hyblygrwydd astudio ar-lein ac mewn person yn eu gwneud nhw’n hygyrch iawn, ble bynnag ydych chi.”
Ychwanegodd Mrs Price: “Rydyn ni’n darparu dysgu i oedolion a’r gymuned hefyd yn ogystal â chyrsiau Sgiliau i Oedolion mewn ystod o bynciau ar draws ein safleoedd yn Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych, yn ogystal â lleoliadau cymunedol yn yr ardaloedd hynny.
“Mae cymorth ariannol ar gael hefyd trwy Gyfrif Dysgu Personol ac os rydych chi’n hŷn na 19 oed ac yn byw yng Nghymru, mewn cyflogaeth ac yn ennill £29,534 y flwyddyn, neu mae eich swydd mewn perygl.
“Mae yna lawer o lwybrau y gallwch chi eu dilyn gyda Choleg Cambria, mae eich dyfodol yn dechrau yma.”
Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at enquiries@cambria.ac.uk neu ffoniwch 0300 30 30 007.
Ewch i’r wefan am ragor o wybodaeth ar y cyrsiau rhan amser sydd ar gael:https://www.cambria.ac.uk/cyrsiau-rhan-amser-proffesiynol-ac-i-oedolion/?lang=cy.