Prif Weithredwr Gweithredol yr Is-gyfarwyddiaeth

Cyfathrebu Corfforaethol a'r Gymraeg

Dewch i gyfarfod â’r uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredu, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.

Gyda’i gilydd, maent yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn angerddol iawn am swyddogaeth addysg, hyfforddiant a sgiliau fel rhai sy’n llywio datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Jeni Harris
Cyfarwyddwr Cwricwlwm -
Dysgu Cymraeg

Jeni Harris

Dechreuodd Jeni weithio i’r coleg yn 2006 ar ôl gweithio mewn addysg Gynradd ac Uwchradd. Bu’n Diwtor Cymraeg i Oedolion a chydlynydd rhaglen cyn dod yn Rheolwr Cymraeg Gwaith ym mis Chwefror 2020, Rheolwr Dysgu Cymraeg y Gogledd Ddwyrain ym mis Tachwedd 2020 ac ar hyn o bryd, mae hi’n Gyfarwyddwr Cwricwlwm Dysgu Cymraeg (2024). Jeni yw’r prif gyswllt ar gyfer cyrsiau Dysgu Cymraeg i ddysgwyr sy’n oedolion yn y gymuned ac ar safleoedd y coleg yn y Gogledd Ddwyrain. Mae’n gyfrifol am raglen Dysgu Cymraeg. Ei gweledigaeth yw gwella’r defnydd o’r Gymraeg ym mhob sector a grŵp oedran yn unol â nod y Llywodraeth o sicrhau 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Dysgwch ragor

Ellir Jones
Cyfarwyddwr Cwricwlwm -
Cymraeg Gwaith

Eilir Jones

Ymunodd Eilir ag adran Cymraeg i Oedolion Coleg Cambrig yn 2009 fel tiwtor a oedd yn cael ei dalu fesul awr. Ar ôl astudio ar y cwrs Cymhwyster Cymraeg Cenedlaethol, cafodd swydd ran-amser yn y coleg ac yn 2018, cafodd ei gyflogi fel tiwtor llawn amser. Yn fuan wedyn cafodd gefnogaeth gan y coleg i astudio’r cwrs PMAR ac yn 2021 cafodd ei benodi yn rheolwr Cymraeg Gwaith. Yn 2024 daeth Eilir yn Gyfarwyddwr Cwricwlwm Cymraeg Gwaith ac mae’n gyfrifol am gydlynu cyrsiau i gyflogwyr a rhanddeiliaid a chyrsiau Cymraeg Gwaith Addysg Bellach yn fewnol ac yn genedlaethol.

Dysgwch ragor

Elen Van Bodegom
Cyfarwyddwr Cwricwlwm - Sgiliau Cymraeg

Elen Van Bodegom

Dechreuodd Elen weithio i’r Coleg yn 2018 fel tiwtor Cymraeg ar gyfer darpariaeth Safon Uwch a Sgiliau Cymraeg. Cyn hynny, roedd hi’n Bennaeth Dwyieithrwydd adran Gymraeg sy’n flaenllaw yn y sector Cymraeg yn Ne Cymru. Cyfrifoldeb Elen yw hyrwyddo ethos Cymraeg y Coleg a pharchu hawliau ieithyddol ein dysgwyr. Ei gweledigaeth yw ehangu cyfleoedd dwyieithog myfyrwyr trwy gyfoethogi profiadau a chyfleoedd.

Dysgwch ragor

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost