Ar hyn o bryd, fi ydi’r Cyfarwyddwr Cwricwlwm yng Ngholeg Cambria. Trwy gydol fy nghyfranogiad ar gwrs Arweinwyr Ysbrydoledig Coleg Cambria, cefais ddyrchafiad i’r swydd yma.
Dechreuodd fy nhaith yn 2011 pan wnes i gofrestru fel myfyriwr hŷn mewn cwrs nos Lefel 2 mewn Gwaith Saer. Gwnaeth y gefnogaeth a’r profiad gwnes i eu hennill rhoi hyder i mi fynd ar ôl Gradd mewn Dylunio a Thechnoleg Bensaernïol. Yn 2016, gwnes i ymuno â Choleg Cambria fel Hyfforddwr / Arddangoswr. Roeddwn i’n cael fy ngwthio gan fy ngwerthfawrogiad newydd ar gyfer addysg ac awydd i gefnogi eraill.
Wrth ddatblygu’n rhagor, cefais ddyrchafiad i swydd darlithydd ac roeddwn i’n cyflwyno Adeiladu Technegol AU oherwydd fy nghymwysterau a phrofiad.
Gan oresgyn yr heriau roedd yn cael eu hachosi gan ddyslecsia, gwnes i gwblhau fy nghymhwyster TAR gyda chymorth gan adran ADY y coleg.
Er ei fod yn rhoi cnoc i’m hyder weithiau, dydi hynny heb effeithio ar fy nghyfleoedd datblygu personol a fy nhwf yn y coleg.
Ar ôl treulio 5 mlynedd mewn gwaith cymdeithasol, gan arbenigo mewn pobl ifanc yn eu harddegau a’r glasoed, roeddwn i eisiau cael effaith sylweddol ar wella eu cyfleoedd bywyd. Gwnaeth hyn arwain at gwblhau cymhwyster TAR mewn addysg ol-16. Dros y 23 mlynedd diwethaf, dwi wedi cael y fraint o gefnogi a grymuso nifer o fyfyrwyr, gan eu helpu nhw i gynyddu eu hunanwerth, anelu at nodau gyrfa uwch,, a chymryd mantais o bob cyfle sydd ar gael iddyn nhw. Dwi’n credu’n gryf yng ngrym trawsnewidiol addysg wrth feithrin llwyddiant a hapusrwydd mewn bywyd.
Fy hoff beth am fy swydd ydi cydweithio ar draws y coleg gyda chyfarwyddwyr o’r un anian, gan anelu at gynyddu cyflawniadau a dyheadau ein holl ddysgwyr. Dwi wirioneddol yn mwynhau’r gwaith tîm deinamig a gwerth chweil yma yng Ngholeg Cambria.
Yr hyn sy’n amlwg i mi am ddiwylliant y coleg ydi ei amgylchedd cynnes a chroesawgar. Maen nhw’n canolbwyntio ar lesiant staff sydd yr un mor bwysig â llesiant y dysgwyr. Mae’r diwylliant cynhwysol a chefnogol yma yn creu awyrgylch ffafriol a ffyniannus i bawb yng Ngholeg Cambria.
Dechreuodd fy nhaith wrth i mi fod ar gwrs AET yng Ngholeg Cambria lle gwnes i gyfarfod â rhai o’n haseswyr a oedd ar y cwrs hefyd. Gwnaeth eu brwdfrydedd a’u hymrwymiad yn eu swyddi fy ysbrydoli felly roeddwn i’n frwdfrydig i ymuno â’r Coleg pan ddaeth swydd wag tebyg i’r amlwg.
Erbyn hyn dwi wedi gweithio yng Ngholeg Cambria ers 6 blynedd a’r peth gorau am fy swydd ydi’r rhyddid i ddarparu cefnogaeth wedi’i bersonoli i’r dysgwyr, gan eu helpu nhw ar eu taith unigryw a chyflawni eu nodau. Mae diwylliant cynhwysol Coleg Cambria yn sicrhau cefnogaeth sefydlog, gan fy ngalluogi i fod yn rhan o newidiadau cadarnhaol yn y coleg.
Mae gweithio yma wedi bod yn werth chweil yn broffesiynol ac yn bersonol. Dwi’n gwerthfawrogi’r ymrwymiad mae Coleg Cambria yn ei ddangos i’w staff a’i ddysgwyr, gan ddarparu cymorth ymarferol a fy nghysylltu i gydag adnoddau gwerthfawr. Mae’n fraint cael cyfrannu at lwyddiant parhaus y coleg a gwneud gwahaniaeth i fywydau ein dysgwyr.
Dwi wedi gweithio yng Ngholeg Cambria ers 1.5 mlynedd, yn adran Dysgu Sylfaen yn Iâl.
Fel darlithydd Celf a Dylunio, dwi wedi cael y faint o gefnogi creadigrwydd a chwilfrydedd dysgwyr trwy brofiad dysgu amrywiol yn cwmpasu dulliau digidol a thraddodiadol. Mae’n hynod o werth chweil gweld cynnydd a hyder y dysgwyr yn tyfu yn ystod y flwyddyn, gyda llawer ohonyn nhw yn symud ymlaen i lefelau uwch yn y coleg.
Mae ein tîm yn cydweithio’n agos i fodloni anghenion addysgol a galwedigaethol y dysgwyr, gan ddarparu cefnogaeth gynhwysfawr yn yr amgylchedd coleg. Mae’r diwylliant yng Ngholeg Cambria wedi’i nodweddu gan ei natur gadarnhaol a blaengar. Mae’r rheolwyr a’r cydweithwyr yn cynnig cefnogaeth eithriadol, gan greu amgylchedd dysgu cyfoethog, cadarnhaol a chefnogol.
Dwi wedi gweithio yng Ngholeg Cambria ers dros 18 mlynedd erbyn hyn ar ôl cael y swydd ar ôl gweithio mewn maes gweinyddu a chwilio am antur newydd.
Fy hoff rannau o’r swydd ydi cofrestru a chefnogi dysgwyr a staff yn ystod y cyfnod ymsefydlu. Mae gan ein tîm Gwasanaethau Data Dysgwyr enw da am fod yn hawdd mynd atyn nhw, yn gefnogol ac yn llwyddiannus wrth wasanaethu dysgwyr, cydweithwyr a chwsmeriaid a dwi’n falch o fod yn rhan ohono.
Yr hyn sy’n amlwg yng Ngholeg Cambria ydi’r diwylliant cadarnhaol. Mae’n weithle hyblyg a chefnogol sy’n annog datblygu proffesiynol. Gyda chyfnodau o gau dros y Nadolig a gweithgareddau dros amser cinio fel dosbarthiadau cylchred neu ioga, mae’r coleg yn hyrwyddo llesiant a chydbwysedd gwaith-bywyd. Mae’n le gwych i weithio a ffynnu.
Ar hyn o bryd fi ydi’r Ymgynghorydd AD ar gyfer Sefydliad Technoleg a Phrofiadau Pobl yng Ngholeg Cambria. Gwnes i ddewis ymuno â’r coleg oherwydd ei enw da a’r cyfle dwi’n ei gael yno i wneud gwahaniaeth gwirioneddol gan ddefnyddio fy sgiliau.
Gan ddechrau fel Gweinyddydd AD, gwnes i sylweddoli yn gyflym y potensial i ddatblygu yng Ngholeg Cambria. O fewn chwe mis yn unig, cefais ddyrchafiad i’m swydd bresennol, roedd hyn yn cadarnhau i mi fod y coleg yn lle i mi ddatblygu fy ngyrfa’n barhaus.
Mae ymrwymiad y coleg i feithrin dawn wedi bod yn allweddol yn fy nhaith. Dwi’’n ddiolchgar am y cyfleoedd twf proffesiynol mae Coleg Cambria yn eu cynnig a’r cyfle i gyfrannu at ei lwyddiant.
Mae ystod eang o fuddion ar gael i chi pan fyddwch chi’n ymuno â’n tîm Coleg Cambria. Byddwch yn barod i arbed swm mawr o’ch incwm gyda’n gostyngiadau i weithwyr. Mae ein buddion yn cynnwys llawer rhagor na gostyngiadau yn unig. Edrychwch ar y rhestr isod:
Cynllun pensiwn gwych
Gwyliau blynyddol hael
Datblygu proffesiynol
Parcio am ddim ar bob safle
Mynediad i ystod o Gyrsiau Addysg Broffesiynol am bris rhatach
Sesiynau Cambria Heini am ddim
Anrhegion Cydnabod
Rhaglen Cymorth i Weithwyr
Meithrinfa ar y safle (Glannau Dyfrdwy)
Campfa ar y safle
(Iâl a Glannau Dyfrdwy)
Clinigau Llesiant
Cynllun Beicio i'r Gwaith
Polisïau Cyflogaeth Hael
Gostyngiadau mewn siopau masnachol y coleg
Gweithio Ystwyth
Cynllun Arian Iechyd Rhatach
Cynllun Cydnabod
Hwb Buddiannau Cambria
Cau dros gyfnod y Nadolig
Sgrinio a chymorth ASSCC
Cyfleoedd Elusennol a Gwirfoddoli
Cynllun Atgyfeirio Gweithiwr
Yma yng Ngholeg Cambria rydym eisiau rhoi’r cyfle i chi dyfu a dysgu yn barhaus. Bydd ein cronfa helaeth o adnoddau a’r gostyngiadau sydd ar gael ar gyrsiau proffesiynol a chyrsiau gyda’r nos yn rhoi’r cyfle gorau i chi wneud hynny.
Cyfraniad o hyd at 1/3 tuag at ffioedd cyrsiau proffesiynol
Cyfle i gyrchu ystod eang o gyfleoedd e-ddysgu a datblygu proffesiynol
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg