Coleg 16-18
DARGANFYDDWCH EIN CYRSIAU
Rydym yn cynnig addysgu o’r safon uchaf ar ein cyrsiau 16-18 ac rydym yn falch o’n cynigion Safon Uwch sy’n arwain y sector a’n henw rhagorol am lwyddiant myfyrwyr. Bydd ein tiwtoriaid arbenigol yn eich ysbrydoli i gyflawni a’ch paratoi ar gyfer eich dyfodol. Gyda’n gilydd byddwn yn darganfod ac yn datblygu eich angerdd, eich doniau a’ch hyder.
P’un a ydych yn penderfynu mynd i’r brifysgol neu i fyd gwaith, mae ein cyrsiau wedi’u cynllunio i adeiladu eich gwybodaeth, ac yn bwysicaf oll, rhoi eich sgiliau ar waith mewn lleoliad diwydiant go iawn. Ymunwch â ni i gyrraedd eich llawn botensial.
Ynglŷn â’n Coleg
Sefydlwyd y coleg yn ôl yn 2014, ac ers hynny rydym wedi sefydlu ein hunain yn gyflym fel darparwr addysg blaenllaw yn y DU Rydym yn un o’r colegau mwyaf yn y DU, gyda thua 6,000 o fyfyrwyr llawn amser, 20,000 o ddysgwyr rhan-amser a llawer o gysylltiadau rhyngwladol.
Ar draws ein deg safle, rydym yn cynnig amrywiaeth helaeth o gyrsiau llawn amser a rhan-amser gan gynnwys cyrsiau Safon Uwch, TGAU, BTEC, Cymraeg i Oedolion, ac Addysg Uwch. Mae’r coleg hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â thros 1000 o gyflogwyr yn lleol ac yn genedlaethol i’ch helpu i gael cyfleoedd prentisiaeth a hyfforddeiaeth.
Ein Gweledigaeth
Ein gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol yw ‘rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesi ac ysbrydoliaeth.’
Ein blaenoriaeth gyffredinol yw parhau i ddarparu addysgu a dysgu rhagorol, er mwyn ymestyn, herio ac ysbrydoli pob dysgwr i archwilio a chyflawni eu llawn botensial. Mae hyn yn hanfodol wrth i rôl Cambria ddod yn fwyfwy pwysig i’n cymunedau a’n heconomi.
Ein Gwerthoedd
Dangos gonestrwydd ac uniondeb
Cael eich parchu a'ch gwerthfawrogi
Bod yn garedig a chefnogol
Gweithio gydag eraill
Teimlo'n gyfartal a chynhwysol
Bod yn gymuned
Bod yn rhagorol ac ysbrydoledig
Annog a chymell
Bod yn angerddol
Bod yn arloesol