Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Mae’n anodd i bobl ifanc yn eu harddegau gael ar yr ysgol yrfa, ond mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd ei rhaglen hyfforddi a datblygu newydd yn helpu.

Mae Twf Swyddi Cymru+ yn rhaglen hyblyg sydd wedi’i chynllunio i weithio o amgylch anghenion pobl ifanc 16-18 oed sy’n chwilio am swydd. Gall helpu gydag ennill sgiliau, cymwysterau a phrofiad newydd fel y gall sicrhau swydd ddelfrydol ddod yn realiti i unrhyw un.

Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i hybu hyder cyfranogwyr wrth ddarparu cyfleoedd a chymorth wedi’u teilwra i helpu unigolion i gyflawni eu potensial. Mae cymorth amrywiol ar gael a gellir ei gyrchu trwy gysylltu â Cymru’n Gweithio.

Un person ifanc yn eu harddegau sy’n deall pa mor hanfodol yw’r math hwn o gefnogaeth yw Lewis O’Neill.

Gwnaeth y bachgen 18 oed adael ysgol Glannau Dyfrdwy heb unrhyw gymwysterau na TGAU gan lanio yn y system cyfiawnder troseddol. Esboniodd: “Yn yr ysgol, roeddwn i’n ddrwg ac yn mynd i drwbl drwy’r amser. Roedd cwnselwyr wirioneddol yn ceisio fy helpu i gael trefn ar bethau, ac ar ôl peidio â gwneud fy arholiadau, cefais fy atgyfeirio i’r coleg. Dechreuais hyfforddi mewn adeiladu, ond wnes i ddim ei fwynhau.”

Diolch i’r drefn, cafodd Lewis ei annog i geisio am Raglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru a oedd yn ei alluogi i ddysgu a chael ei dalu ar yr un pryd. Manteisiodd ar y cyfle gan ddarganfod angerdd am glustogwaith yn dilyn cyfnod o leoliad gwaith a gafodd ei drefnu gan Goleg Cambria.

Dywedodd Lewis: “Mae’n ddoniol meddwl doedd gen i ddim syniad beth oedd clustogwaith bryd hynny. Dywedodd rhywun wrthyf am leoliad gwaith mewn clustogwaith yn fy nhref leol lle byddwn i’n gallu hyfforddi wrth gael fy nhalu.

“Cefais wybod ei fod yn ymarferol iawn a dyna’r math o beth roeddwn i’n dda yn ei wneud oherwydd mae’n fy nghadw i’n brysur. Roeddwn i gwybod y byddwn i’n hapusach pe bawn i’n cael fy nhalu hefyd.

“Ar fy niwrnod cyntaf gwnaethon nhw ddangos yr offer y byddwn i’n eu defnyddio a’r math o waith y byddwn i’n ei wneud. Roedd popeth yn symud yn gyflym iawn ac roeddwn i’n meddwl i ddechrau na fyddwn i byth yn gallu ei wneud, ond roedd yr hyfforddwyr a’r goruchwylwyr yn wych. Gwnaethon nhw ddysgu popeth rydw i’n ei wybod hyd heddiw i mi, gan fy rhoi ar gynllun datblygu.

“Dros y ddwy flynedd, gwnes i ddysgu popeth am y swydd a’r fasnach, fel torri, gwnïo, dod o hyd i ddiffygion mewn ffabrig – mae’n arbenigol iawn.”

Mae Lewis bellach wedi cael gyrfa mewn cwmni dylunio dodrefn adnabyddus ar ôl hogi ei sgiliau trwy brentisiaeth. Roedd hefyd yn gwneud soffas ar gyfer enwau mawr fel Next a Marks & Spencer yn Academi Hyfforddiant Westbridge.

Ers cymhwyso ym mis Rhagfyr y llynedd a chwblhau ei brentisiaeth yn llwyddiannus, mae bellach yn gweithio mewn swydd llawn amser yn Westbridge ac yn ceisio helpu rhagor o bobl ifanc fel ef i fynd yn ôl ar y llwybr cywir.

Ychwanegodd Lewis: “Pe bawn i heb gael yr hyfforddiant rydw i wedi’i gael, duw a ŵyr ble byddwn i rŵan. Roedd yn help mawr i mi ac yn rhoi rhywbeth i mi ganolbwyntio arno.

“Byddwn yn argymell bod pobl ifanc yn rhoi cynnig ar raglen newydd Twf Swyddi Cymru+. Peidiwch ag aros nes eich bod yn 25 i ddechrau chwilio am swydd – manteisiwch ar y cyfle i roi cynnig ar wahanol swyddi rŵan, cael rhywfaint o hyfforddiant a chael eich talu wrth ddysgu.

“Dechreuodd perchennog Westbridge fel prentis gan ddatblygu a symud ymlaen at y brig. Gwnaeth siarad gydag ef fy ysbrydoli. Dwi’n berson ymarferol yn sicr, felly ni fedrai ddim dychmygu ysgrifennu negeseuon e-bost trwy’r dydd, ond dwi’n hoffi’r syniad o ddod yn oruchwyliwr a hyfforddi pobl. Hoffwn helpu pobl fel fi un diwrnod.

“Bellach mae gen i swydd dda gyda rhagolygon da ac yn gobeithio y gall fy stori ysbrydoli rhywun arall.”

Os ydych rhwng 16 a 18 oed, yn byw yng Nghymru ac newydd adael yr ysgol neu’n chwilio am waith, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer rhaglen Twf Swyddi Cymru+. Mae’r rhaglen yn cynnig llawer o fanteision gan gynnwys cael eich talu gyda lwfansau hyfforddi wythnosol wrth ddysgu, y cyfle i ennill cymwysterau cydnabyddedig a hyfforddiant un-i-un i helpu i gyflawni nodau unigol.

Mae’n cynnig cam cyntaf da i bobl ifanc yn eu harddegau i gysylltu gyda chyflogwyr, fel y gallant ddechrau dringo’r ysgol yrfa a chyflawni eu potensial.

I ddarganfod rhagor am Twf Swyddi Cymru+ ewch i workingwales.gov.wales/jobs-growth-wales-plus neu ffoniwch Cymru’n Gweithio ar 0800 028 4844

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost