Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Daeth Ali Suliaman Ali i Ogledd Cymru o Syria chwe blynedd yn ôl.

Mae Ali sy’n 39 oed wedi agor siop torri gwallt dynion ar Stryt yr Arglwydd yn Wrecsam, gyda chymorth Cambria a grant a chyngor mentora gan Busnes Cymru.

Roedd Ali yn rhan o brosiect REACH – rhaglen cyflogadwyedd a sgiliau – mae wrth ei fodd ei fod yn gallu dychwelyd yn ôl i’r maes roedd yn gweithio ynddo yn y Dwyrain Canol.

“Dwi wrth fy modd fod gen i fy musnes fy hun, mae’r gymuned leol wedi ymateb yn gadarnhaol iawn,” meddai Ali, sy’n byw yn Rhosllanerchrugog.

“Dwi wedi astudio cwrs ac mae gen i’r holl gymwysterau; mae’r coleg wedi bod o gymorth mawr i mi, dwi’n ddiolchgar iawn.

“Rydyn ni wedi bod yn brysur iawn, a dwi’n gyffrous i weld beth fydd i ddod yn y dyfodol.”

Mae Ali yn benderfynol o lwyddo gyda’i fenter ar gyfer ei bedwar o blant, mae un ohonyn nhw’n astudio nyrsio ar safle Iâl Coleg Cambria.

Mae Ceri Thomas sy’n diwtor Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) wedi bod wrth law i arwain Ali a chynnig cymorth iddo yn ystod y pandemig.

Mae hi’n falch o’i gyflawniad ac yn dymuno pob llwyddiant iddo.

“Dwi a’r tiwtoriaid eraill sydd wedi dysgu a threulio amser yn helpu Ali yn falch iawn drosto, yn enwedig yn dilyn popeth mae wedi gorfod ei wynebu,” ychwanegodd Ceri.

“Mae’n gweithio’n hynod o galed ac mae wedi bod eisiau agor siop torri gwallt dynion yn Wrecsam ers oes pys, felly mae’n ysbrydoledig i weld ei weledigaeth yn dod yn wir.

“Mae wedi cael cychwyn gwych ac yn cael llawer o gwsmeriaid, sydd ddim yn syndod gan ei fod yn berson hyfryd – da iawn, Ali!”

Am ragor o wybodaeth am yr amrywiaeth o gyrsiau a chymwysterau sydd ar gael yng Ngholeg Cambria, ewch i’r wefan: www.cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost