Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Wedi’u darparu mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, mae’r rhaglenni’n cychwyn fis Medi yma a’u nod yw cefnogi Datblygiad Proffesiynol Parhaus gweithwyr heb unrhyw gost ychwanegol.

Mae’r prentisiaethau’n cynnwys Gwyddoniaeth Data Gymhwysol, Peirianneg Feddalwedd Gymhwysol, a Seiberddiogelwch Gymhwysol, gyda ffioedd dysgu – sy’n cyfateb i £27,000 dros dair blynedd – sy’n cael eu hariannu gan y Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), yn amodol ar gael cadarnhad.

Wedi’u lleoli ar safle Iâl y coleg yn Wrecsam, bydd natur hyblyg y cyrsiau’n galluogi’r cyfranogwyr barhau mewn cyflogaeth wrth gyflawni gradd.

Dywedodd Nigel Holloway, Cyfarwyddwr Datrysiadau Busnes yng Ngholeg Cambria y bydd dysgu yn cael ei ddarparu ar-lein ac wyneb yn wyneb, gan helpu datblygu sgiliau a rhoi hwb i yrfaoedd.

“Mae hwn yn gyfle gwych i gyflogwyr a gweithwyr yng Nghymru gyfuno addysg a gwybodaeth a enillir yn y gweithle drwy arbed £27,000,” meddai.

“Mae’r cymorth ariannol ychwanegol gan CCAUC yn gymhelliad mawr ac yn golygu y bydd busnesau yn elwa’n fawr o’r sgiliau newydd hyn wrth i staff ehangu eu rhagolygon swyddi ar gyfer y dyfodol.”

Ychwanegodd Nigel: “Mae’r rhain yn brentisiaethau gradd ar sail TG a chyfrifiadur yn bennaf ond nid yn benodol i’r sectorau hynny gan fod pob diwydiant angen y cymwysterau hyn mewn gwirionedd.

“Yn y pen draw, mae hwn yn blatfform perffaith i ‘ennill cyflog wrth ddysgu’ heb dalu ceiniog, sy’n bwynt gwerthu unigryw i sefydliadau sy’n ystyried cynaliadwyedd a pharatoi ar gyfer y dyfodol wedi’r pandemig.

“Rydyn ni wedi cael llawer yn mynegi diddordeb ac mae momentwm yn datblygu wrth i ragor o bobl ddod yn ymwybodol o’r rhaglenni. Felly rŵan yw’r amser i gysylltu â ni a dysgu rhagor.”

Bydd blynyddoedd un a dau yn cael eu cynnal yng Ngholeg Cambria un diwrnod ac un noswaith yr wythnos. Bydd y drydedd flwyddyn yn cael ei chyflwyno ym Mhrifysgol Bangor.

Dywedodd Iestyn Pierce, Penneath Ysgol, Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ym Mhrifysgol Bangor: “Rydyn ni wrth ein bodd i fod yn sefydlu partneriaeth â Choleg Cambria i ddarparu llwybr i fyfyrwyr ennill prentisiaeth gradd ddigidol.

“Bydd cyflogwyr yn elwa’n fawr o’r cyfuniad o addysg a’r profiad gwaith sydd ar gael ar y llwybr hwn. Bydd y prentisiaid yn elwa hefyd o allu defnyddio’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu mewn sefyllfaoedd go iawn sy’n rhoi hyder a phrofiad iddynt ar ôl iddynt raddio.”

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost