Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

The Northop Business School from outside with the sun shining above it

Bydd y rhaglenni hyblyg yn cael eu cyflwyno ar-lein ac wyneb yn wyneb trwy Ysgol Fusnes Llaneurgain.

Mae’r cyrsiau’n cael eu harwain gan Caroline McDermott sy’n ddarlithydd Iechyd Meddwl a Llesiant. Maent yn cynnwys Lefel 2 a Lefel 3 mewn Cyflwyniad Ôl-Covid i Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl; Tystysgrif mewn Iechyd Meddwl; Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Cymru, a Gweithio gyda Llesiant NEBOSH.

Mae cyllid Cyfrif Dysgu personol (PLA) ar gael (yn amodol ar gymhwysedd ) ac mae lleoedd ar gael ar gyrsiau Cyflwyniad i Gymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl ac Iechyd Meddwl i Reolwyr dros yr wythnosau nesaf.

“Yn dilyn heriau Covid-19 a’r pwysau sy’n wynebu cyflogwyr a staff i ganolbwyntio ar iechyd meddwl a llesiant yn fwy nag erioed,” meddai Caroline, sydd hefyd yn gweithio gydag elusen iechyd meddwl MIND.

“Rydyn ni wedi dylunio rhaglenni sydd ar sail themâu allweddol sydd wedi codi wrth siarad â phobl yn y sectorau preifat a chyhoeddus ac rydyn ni wedi cael llawer o adborth cadarnhaol.

“Gallwn ni deilwra rhaglenni ar gyfer busnesau neu ddiwydiannau penodol os oes galw amdanyn nhw, ac mae’r partneriaethau sydd gennym ni gyda sefydliadau fel Highfield, IOSH a NEBOSH yn sicrhau bod y cynnwys yn ddiweddar ac yn adlewyrchu bywyd gwaith modern.

“P’un ai ei fod yma yn yr Ysgol Fusnes, ar-lein neu yn y gwaith, rydyn ni yn y lle gorau i helpu busnesau pan maen nhw wir ei angen.”

Gwnaeth Caroline ddatgelu cynlluniau ar gyfer cyrsiau IOSH mewn Llesiant ac Iechyd Galwedigaethol, a rhagor o gyrsiau yn y flwyddyn newydd a fydd yn canolbwyntio ar yrfaoedd mewn iechyd meddwl ac edrych yn ddyfnach i gyflyrau iechyd meddwl.

Mae swyddi yn y meysydd adeiladu, ffermio, meddygol a milfeddygol, a thrin gwallt a harddwch ymysg y rhai sydd wedi profi lefelau uchel o broblemau iechyd meddwl, cyfraddau hunan laddiad a straen.

Mae Jane Keys, Pennaeth Cynorthwyol Ymgysylltu â Chyflogwyr yn Ysgol Fusnes Llaneurgain, yn annog uwch reolwyr, timau AD a chyfarwyddwyr i gysylltu i ddarganfod rhagor am sut gall y coleg eu cynorthwyo gyda’r materion hyn.

“Mae’r pandemig wedi bod yn ddieithr iawn i ni gyd ac wedi cyflwyno problemau newydd i gyflogwyr, rhai nad ydyn nhw wedi’u hwynebu o’r blaen, o’r cyfnod clo i hunan ynysu i heriau technolegol a chymdeithasol o weithio gartref,” meddai hi.

“Mae rhai wedi cyflwyno polisïau newydd a hyd yn oed hyrwyddwyr iechyd meddwl sy’n gallu cymryd cyfrifoldeb dros lesiant cydweithwyr.

“Mae ein rhaglenni yn cynnwys y ffactorau hyn a gall cymorth ariannol fod ar gael, felly rydyn ni’n annog pobl i gysylltu a darganfod rhagor.”

Bydd y cyrsiau yn rhedeg trwy gydol 2022. Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at caroline.mcdermott1@cambria.ac.uk, ewch i employers@cambria.ac.uk neu ffoniwch 0300 30 30 006.

Am ragor o newyddion a gwybodaeth gan Goleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost