Ond ni fydd rhaid i Charlie deithio i Shanghai oherwydd cafodd y digwyddiad ei ganslo ar ddechrau’r flwyddyn oherwydd pandemig Covid-19.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar safle Ffordd y Bers Coleg Cambria yn Wrecsam o 1-4 Tachwedd.
Mae Charlie yn cynrychioli’r coleg a safle Kronospan yn y Waun, ac mae’n ymuno â dau o’r De, George Denman a Michael Jones ar gyfer Her Tîm Gweithgynhyrchu yn erbyn cynrychiolwyr o Siapan, Taipei Tsieiniaidd, Corea a Ffrainc.
Cafodd y tri dawnus eu dewis o ganodd y cyfranogwyr ledled y DU a gymerodd rhan mewn twrnameintiau sgiliau cenedlaethol cyn y pandemig.
Mae Charlie, sy’n dod o Wrecsam, yn ffitiwr mecanyddol erbyn hyn, cyn hynny roedd yn brentis gyda Magellan Aerospace. Mae’n edrych ymlaen at y digwyddiad, dywedodd: “Rydyn ni wedi bod yn aros tipyn o amser ar gyfer hyn, ond yn sicr mi fydd werth yr aros.
“Mae cael bod yn o dri chyfranogwr Cymraeg yn cynrychioli’r DU yn fraint enfawr, rydyn ni’n hyderus am ennill medal ac rydyn ni’n gobeithio mai medal aur fydd honno.
“Mae gennym ni berthynas da fel tîm, ac rydyn ni wedi bod yn hyfforddi’n galed ac yn edrych ymlaen at gael hwyl a mwynhau’r profiad.
“Mae fy ffrindiau, teulu a phawb yn Kronospan wedi bod yn gefnogol iawn a dwi’n siŵr y bydden nhw’n ein cefnogi ni pan ddaw’r amser.”
Ychwanegodd: “Mae’n bechod bod y gystadleuaeth dramor wedi cael ei ganslo, ond byddem ni’n teimlo’n gartrefol yma ac yn adnabod y lleoliad, felly gobeithio bydd hynny o fantais i ni.”
Mae’r Her Tîm Gweithgynhyrchu yn cynnwys un prif brosiect – sef dylunio a chreu craen 3D wrth raddfa – a naw tasg annisgwyl a allai gynnwys Melino CNC, printio 3D, Cynllunio Drwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD) ac electroneg.
Mae Daytun Unitt sy’n ddarlithydd yn Cambria yn Rheolwr Hyfforddiant WorldSkills UK ar gyfer y categori hwn yn hynod o falch o Charlie a’r criw.
“O berspectif y coleg mae cael Charlie yn cymryd rhan yn anhygoel, mae wedi gweithio’n galed iawn ac mae’n haeddu lle ar y tîm.” meddai Daytun.
“Mae wedi bod yn hir, a chaled iddyn nhw i gyd oherwydd y pandemig a’r heriau a ddaeth yn ei sgil gan gynnwys oedi, sesiynau hyfforddi rhithwir ac wrth gwrs y goblygiadau iechyd a diogelwch, ond maen nhw wedi parhau i ganolbwyntio ar y dasg dan sylw.
“Erbyn hyn rydyn ni’n edrych ymlaen at y gystadleuaeth a hoffwn i longyfarch Charlie unwaith eto am ei gyflawniad anhygoel – pob lwc i ti, byddem ni’n dy gefnogi dy ar hyd y ffordd.”
Am ragor o wybodaeth, ewch i’r wefan: www.worldskills.org.
Ewch i www.cambria.ac.uk i weld y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.