Cynhelir digwyddiadau agored wyneb yn wyneb ar y safleoedd canlynol:
Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy – Dydd Mercher 9 Tachwedd rhwng 5.30pm- 8.30pm
Llysfasi – Dydd Sadwrn 12 Tachwedd rhwng 10am-1pm.
Iâl a Chweched Iâl Wrecsam – Dydd Mercher 16 Tachwedd rhwng 5.30pm-8.30pm.
Ffordd y Bers Wrecsam – Dydd Mercher 16 Tachwedd rhwng 5.30pm-8.30pm.
Llaneurgain – Dydd Sadwrn 19 Tachwedd rhwng 10am-1pm.
Dywedodd Sue Price, Pennaeth Cambria, y bydd y gweithgareddau hyn yn rhoi cyfle i ddarpar fyfyrwyr a’u teuluoedd gael golwg ar y dewis eang o raglenni sydd ar gael ar draws y pedwar safle, o Chwaraeon a Pheirianneg i Amaethyddiaeth, Busnes, Gwallt a Harddwch, Marchnata, Adeiladu a mwy.
“Rydyn ni’n falch iawn o gynnal y digwyddiadau agored mis Tachwedd hyn wyneb yn wyneb ac wedi cael ymateb cadarnhaol iddyn nhw’n barod,” meddai Mrs Price.
“Yn ogystal â’n cyfleusterau modern, mae’n gyfle i bobl ddysgu mwy am ein cymorth iechyd a llesiant a’n gofal bugeiliol – sy’n bwysicach nag erioed o ystyried heriau’r pandemig – a chyrsiau arloesol sy’n paratoi ein dysgwyr ar gyfer eu darpar yrfaoedd.”
Bydd digwyddiadau agored hygyrch i bobl sydd eisiau astudio mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau yn cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol:
Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy – Dydd Iau 17 Tachwedd rhwng 5.30pm-6.30pm.
Iâl a Chweched Iâl Wrecsam – Dydd Iau 24 Tachwedd rhwng 5.30pm-6.30pm.
Llaneurgain – Dydd Iau 1 Rhagfyr rhwng 5.30pm-6.30pm.
Mae’r llefydd yn brin er mwyn i’r rhai sy’n bresennol allu mwynhau a chael golwg ar gyfleusterau blaengar Cambria mewn amgylchedd cynnes ac chroesawgar heb dorfeydd mawr.
Dywedodd y Pennaeth Cynhwysiant, Lizzie Stevens: “Dyma’r cyfle perffaith i archwilio popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau, gan gynnwys mwy o wybodaeth am ein cyrsiau, cyfleusterau a’n gwasanaethau cymorth dysgu a chynhwysiant – edrychwn ymlaen at eich gweld yn fuan.”