Mae’r cyflogwr Jones Bros Civil Engineering UK a Choleg Cambria wedi moderneiddio’r dull o gyflwyno prentisiaethau uwch mewn peirianneg sifil.
Yn draddodiadol, byddai myfyrwyr yn cael eu rhyddhau o’r gwaith am y diwrnod yn ystod y rhaglen, gan dreulio pedwar diwrnod o’r wythnos ar safle gyda’u cyflogwr, gyda’r pumed diwrnod yn y coleg.
Yn lle hynny, roedd y prentisiaid yn symud rhwng blociau o amser yng Ngholeg Cambria, ble mae ystafell benodol ar safle Ffordd y Bers yn Wrecsam ac yn gweithio ar safleoedd fel fferm wynt alltraeth mwyaf y byd, ffordd osgoi £135 miliwn, cynllun croesfan wastad £32 miliwn, a phrosiectau tirlenwi cymhleth.
Mae Jones Bros sydd â’i bencadlys yn Rhuthun wedi gweld y saith prentis uwch cyntaf, sydd wedi cwblhau cwrs peirianneg sifil pedair blynedd sydd wedi dechrau gyda Thystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) ac wedi gorffen gyda Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) yn graddio.
Y saith peiriannydd sifil, sydd erbyn hyn yn gweithio ar draws cyfres o brosiectau ar gyfer Jones Bros, yw Gary Salisbury, Gwion Euron Lloyd, Hari Wyn Evans, Chris Hunt, Reece Davies, Sion Gwilym Williams, a Rhys Williams.
Mae Gary yn byw yn yr Wyddgrug ac wrth ei fodd i fod yn rhan o’r grŵp cyntaf i gymhwyso o’r cwrs.
“Mae’n wych bod yn rhan o’r grŵp cyntaf i gymhwyso,” meddai. “Roedd sut roedd y cwrs wedi’i gynllunio, o ran blociau o astudio yn dilyn blociau o waith ar y safle yn berffaith.
“Pan roeddwn i yn yr ystafell ddosbarth doedd dim byd yn tynnu sylw, roeddech chi’n gallu canolbwyntio ar eich addysg yn unig am y cyfnod hwnnw.”
Dechreuodd Gary fywyd gyda Jones Bros fel gweithredwr adeiladu cyffredinol cyn symud ymlaen i’r cwrs, lle’r oedd yn gweithio ar ffordd gyswllt A49 yn Wigan.
Mae Gary yn 24 oed ac wedi gweithio mewn ffatri pŵer nwy yn Glasgow cyn symud ymlaen i Dogger Bank, sef fferm wynt alltraeth mwyaf y byd, lle mae wedi cynyddu ei gyfrifoldebau fel rheolwr.
Ychwanegodd: “Mae’r prosiectau dwi wedi gweithio arnyn nhw wedi darparu profiadau amhrisiadwy sydd wedi cynnwys amrywiaeth o wahanol agweddau o beirianneg sifil.
“Mae’r cymorth rydyn ni wedi’i gael gan bawb sydd wedi ymwneud â’r cwrs a’r rhai ar y safle wedi bod yn arbennig.”
Roedd Gwion, o Harlech yn un o’r grŵp llwyddiannus hefyd, a ddysgodd ei sgiliau ar ffordd osgoi £135 miliwn Caernarfon a Bontnewydd.
Dywedodd: “Gwnes i wir fwynhau bod yn rhan o’r cwrs ar ei newydd wedd, mae’n sicr wedi fy helpu i o ran y blociau o ddysgu a’r profiad ymarferol oherwydd doedd dim byd yn tynnu eich sylw oddi ar y dysgu.
“Yna pan roeddech chi ar y safle, roeddech chi’n gallu mynd i’r afael arni go iawn, ac roedd yn werth chweil bod yn rhan o’r tîm a oedd yn rhan o ddechrau a gorffen ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd.
“Roedd gallu gweithio ar ddraenio, rhedeg ymylfaeni, gosod wyneb, rhwystrau atal cerbydau, a gwrthgloddiau yn darparu amrywiaeth wych ac wedi rhoi cipolwg go iawn i mi ar fywyd y tu hwnt i’r cwrs.”
Gwnaeth Gwion dreulio pedwar mis yn safle tirlenwi Whinney Hill yn Sir Gaerhirfryn hefyd, ac erbyn hyn mae’n gweithio swydd yn helpu adeiladu parci lorïau yn Middlewich, Swydd Gaer.
Dywedodd rheolwr hyfforddiant Jones Bros, Garmon Hafal: “Mae Jones Bros yn ymfalchïo mewn rhoi cyfle i bobl ifanc gael gwaith, sgiliau dysgu a chymwysterau cydnabyddedig y diwydiant.
“Dyma’r tro cyntaf i’r cwrs gael ei gynnal yn y ffurf yma gyda blociau o ddysgu yn dilyn amser di-dor ar y safle, dwi’n hapus iawn i weld ei fod wedi llwyddo gyda saith aelod o’r grŵp yn cymhwyso.”
Ewch i www.cambria.ac.uk am ragor o newyddion a gwybodaeth o Goleg Cambria.