Background Splash

Gan Alex Stockton

XmasMarkets2

Yn dilyn llwyddiant digwyddiadau’r llynedd, bydd y marchnadoedd yn cael eu cynnal 6-8 Rhagfyr yn Iâl Wrecsam, a 13-15 Rhagfyr yng Nglannau Dyfrdwy.

Bydd hyd at 25 o werthwyr yn bresennol, gan gynnwys Rhug Organic Farm Estate, Pizza Cake, Purple Petals, Emily Anne Jewellery, Roni’s Art, Goch and Co, Pretty Pots by Janet, a Dee Designs.

Bydd myfyrwyr yn darparu adloniant – gan gynnwys perfformwyr o bantomeim Jac a’r Goeden Hud Cambria – ac mae Band Pres Treffynnon ymhlith cerddorion eraill a fydd yn ymddangos dros y chwe diwrnod.

Yn ogystal â chynhyrchwyr annibynnol, bydd Siôn Corn yn ymweld â’r ddau safle a bydd digonedd o ddanteithion Nadoligaidd ar gael i’r teulu oll.

Mae Cyfarwyddwr Gweithrediadau Masnachol Cambria, Maria Stevens, yn edrych ymlaen at groesawu pobl yn ôl ar gyfer rhagor o hwyl yr ŵyl ym mis Rhagfyr.

“Roeddem ni wrth ein bodd gydag ymateb myfyrwyr, busnesau a’r gymuned leol at y marchnadoedd y llynedd,” meddai hi.

“Yn ogystal â dod ag ysbryd y Nadolig i Wrecsam a Glannau Dyfrdwy, mae’n gyfle i gynhyrchwyr arddangos yr hyn y maent yn ei gynnig, gan gynnwys bwyd a diod, crefftau, gemwaith, casgliadau iechyd a harddwch a llond sach o syniadau ar gyfer anrhegion.”

Ychwanegodd Maria: “Bydd cerddoriaeth byw, perfformwyr theatr, gwin cynnes a bwyd stryd, a bydd ein bwyty, siop flodau a salon Iâl yno a bydd digonedd i’w wneud a’i weld.

“Rydyn ni wrth ein bodd i gael cynnal y digwyddiadau Nadolig hyn yn y coleg am yr ail flwyddyn ac rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu chi yn fuan.”

Am wybodaeth ar amseroedd a manylion am Groto Sion Corn, ewch i’r wefan:  www.cambria.ac.uk/cambria-christmas-markets a dilynwch @colegcambria ar gyfryngau cymdeithasol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost