Dysgu Rhan-amser, Cyrraedd eich Llawn Botensial

Dewch i ddarganfod ein hystod o gyrsiau hobi a phroffesiynol rhan-amser a gwnewch rywbeth newydd i chi!

Rydyn ni’n darparu ystod enfawr o gyrsiau i helpu i wella eich sgiliau a’ch gwybodaeth i roi hwb i’ch gyrfa neu i ddod o hyd i hobi newydd. O harddwch i adeiladu, mae gennym ni rywbeth at ddant pawb.

Pam dewis dysgu rhan amser?

  • Pam dewis rhan-amser?
  • Anelu am ddyfodol mwy disglair
  • Eisiau uwchsgilio i symud ymlaen yn eich gyrfa gyda chwrs datblygiad proffesiynol
  • Eisiau dysgu rhywbeth newydd gyda chwrs rhan amser
  • Cyfarfod pobl newydd
  • Dysgu Cymraeg gyda chwrs Cymraeg i Oedolion
  • Dechrau hobi newydd
  • Helpu eich plentyn neu ddibynnydd gyda Mathemateg a Saesneg.

Mae ein tîm Sgiliau i Oedolion hefyd yn darparu cyrsiau ar ein safleoedd ac yn y gymuned o helpu oedolion i wella ei sgiliau Mathemateg, Saesneg a Digidol.

Cyrsiau Rhan-amser

Ydych chi'n barod i ddod o hyd i gwrs rhan-amser?

Cyrsiau am Ddim

Gellir ariannu* rhai o'n cyrsiau trwy Gyfrif Dysgu Personol, os ydych chi'n hŷn na 19 oed ac yn byw yng Nghymru, mewn gwaith ac yn ennill llai na £30,596 a year, neu os ydy'ch swydd mewn perygl, mae'n ffordd wych o gael cyllid i astudio cwrs rhan-amser ar gyrsiau penodol.

Oes gennych chi gwestiwn?

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

0300 30 30 007

Anfonwch E-bost atom ni

E-bostiwch ni

gwasanaethaumyfyrwyr@cambria.ac.uk

Amdanom ni

Sefydlwyd y coleg yn ôl yn 2014, ac ers hynny rydym wedi sefydlu ein hunain yn gyflym fel darparwr addysg blaenllaw yn y DU. Rydym yn un o’r colegau mwyaf yn y DU, gyda thua 6,000 o fyfyrwyr llawn amser, 20,000 o ddysgwyr rhan amser a llawer o gysylltiadau rhyngwladol.

Ar draws ein deg safle, rydym yn cynnig amrywiaeth helaeth o gyrsiau llawn amser a rhan amser gan gynnwys cyrsiau Safon Uwch, TGAU, BTEC, Cymraeg i Oedolion, ac Addysg Uwch. Mae’r coleg hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â thros 1000 o gyflogwyr yn lleol ac yn genedlaethol i’ch helpu i gael cyfleoedd prentisiaeth a hyfforddeiaeth.

Play Video
Ein Gweledigaeth

Ein gweledigaeth ysbrydoledig o’r dyfodol yw ‘rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth.’

Ein blaenoriaeth gyffredinol yw parhau i gyflwyno addysgu a dysgu rhagorol, er mwyn ymestyn, herio ac ysbrydoli pob dysgwr i archwilio a chyflawni i’w llawn botensial. Mae hyn yn hanfodol wrth i ddyletswydd Cambria ddod yn bwysicach byth i’n cymunedau a’n heconomi.