LANSIO SGILIAU SERO-NET
Bydd Cambria yn cyflwyno’r cymwysterau a ariennir yn llawn* fel rhan o gynllun Sgiliau Sero-Net y Cyfrif Dysgu Personol (PLA), sydd ar gael tan yr haf i unrhyw un sy’n 19 oed neu’n hŷn, sy’n byw yng Nghymru ac mewn cyflogaeth.
Dywedodd Jane Keys, Pennaeth Cynorthwyol Ymgysylltu â Chyflogwyr, fod y cyrsiau wedi’u cynllunio i gefnogi Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar draws ystod eang o ddiwydiannau, mewn cydweithrediad â phartneriaid yn y meysydd preifat a chyhoeddus.
Ychwanegodd y bydd natur hyblyg y rhaglenni – gan gynnwys dysgu o bell a chyfunol – yn apelio at y rhai sydd eisoes mewn swyddi llawn amser ac yn ennill mwy neu lai na’r cap cyflog PLA arferol o £29,534, sydd wedi’i godi dros dro ar gyfer cyrsiau penodol.
“O ystyried y prinder cenedlaethol mewn sgiliau gwyrdd a digidol, mae’r cynllun PLA yn targedu’r meysydd hynny sydd ag amrywiaeth o gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn,” meddai Jane.
“Gall unrhyw un sy’n bodloni’r meini prawf gofrestru, maen nhw’n ffordd wych o roi hwb i DPP yn y gweithle i berchnogion a rheolwyr busnes ac o ystyried bod y cap wedi’i godi tan fis Gorffennaf yn unig, rydyn ni’n annog pobl i gofrestru cyn y dyddiad cau hwnnw.”
Cyrsiau Arwain a Rheoli Lefel 4-5
Ymhlith y cyrsiau sy’n dechrau ym mis Ionawr mae cymwysterau Arwain a Rheoli Lefel 4-5 gyda’r ILM. Gellir eu hariannu’n llawn yn ôl ein cynnig PLA, yn amodol ar gymhwysedd.
“Mae’r rhaglenni rydyn ni wedi’u dylunio yn ateb galw’r sectorau preifat a chyhoeddus ar adeg pan mae recriwtio yn hynod o heriol,” meddai Jane.
“Fe wnaethon ni weithio mewn partneriaeth – yn enwedig yn ystod y pandemig – i sicrhau ein bod ni’n gweithredu ar yr adborth a gawson ni, felly mae’r cymwysterau hyn wedi’u teilwra i gefnogi datblygiad gyrfa.
Ychwanegodd: “Beth bynnag yw’r pwnc, mae’r ysgol fusnes yn cymryd yr hinsawdd economaidd a recriwtio i ystyriaeth er mwyn sicrhau bod ein dysgwyr – yn enwedig y rhai mewn cyflogaeth – yn cael mynediad at brofiadau hyblyg, bywyd go iawn, amser real a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau gwaith bob dydd.
“Rydyn ni’n credu ein bod ni wedi gwneud hynny ac yn annog pobl i gysylltu yn fuan i gael gwybod rhagor.”
Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk neu ffoniwch 0300 30 30 006.
Fel arall, anfonwch e-bost at pla@cambria.ac.uk neu ewch i www.cambria.ac.uk/personal-