Addysgu, Asesu & Addysg

Play Video about Teaching subject image

Pam dewis Prentisiaeth?

Dechreuwch eich gyrfa gyda phrentisiaeth i ennill cyflog wrth ddysgu.

Mae cwmnïau ledled Gogledd Cymru a thu hwnt yn recriwtio pobl ar gyfer prentisiaethau a hyfforddiant yn y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfa.

Fel prentis byddwch chi’n ennill cyflog wrth ddysgu, ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad a chymwysterau cydnabyddedig ar hyd y ffordd. P’un ai rydych chi rhwng 16 ac 19 oed neu’n 20 oed neu’n hŷn, gallai ystod o opsiynau prentisiaeth fod ar gael i chi.

Mae swyddi yn y sector hwn yn cefnogi athrawon mewn ysgolion cynradd ac uwchradd i helpu disgyblion gyda’u dysgu naill ai un i un neu mewn grwpiau bach.

Bydd prentisiaid yn gweithio’n agos gyda staff addysgu a rhieni i sicrhau bod disgyblion yn gwneud y mwyaf o’u hamser yn yr ysgol.

Bydd prentisiaid yn treulio amser yn dysgu gwybodaeth graidd yn ogystal â chael eu hasesu yn y gweithle gan ein timau asesu sydd wedi gwasanaethu’r diwydiant.

Bydd dysgwyr yn y diwydiant hwn angen llawer o egni, amynedd a gallu gweithio’n dda mewn tîm.

Y Prentisiaethau rydym yn eu cynnig

Rydym yn cynnig hyfforddiant prentisiaeth cefnogi addysgu a dysgu ar Lefel 2 a 3.

Lefel 2 mewn Cynorthwyo Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion

Gofyniad Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 16 mis

Dull Astudio ac Asesu – Gweithle

Lleoliad – Gweithle

Lefel 3 mewn Cynorthwyo Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion

Gofyniad Mynediad – Yn gweithio mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 16 mis

Dull Astudio ac Asesu – Gweithle

Lleoliad – Gweithle

Lefel 3 mewn Dysgu a Datblygu

Gofyniad Mynediad – Yn gweithio mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 18 mis

Dull Astudio ac Asesu – Gweithle

Lleoliad – Gweithle

Callum McDonald

Callum McDonald

Wedi astudio – Lefel 2 mewn Cynorthwyo Addysg a Dysgu

Erbyn hyn – Cymhorthydd Addysgu Anghenion Addysgol Arbennig

“Fy nghwrs oedd Lefel 2 mewn Cynorthwyo Addysgu a Dysgu a wnes i ei gwblhau oherwydd fy nod o ddod yn gymhorthydd addysgu cymwysedig. Fe wnes i ddysgu llawer am sut i gynorthwyo plant trwy eu haddysg a sut i ddarparu’r cyfleoedd gorau iddyn nhw’n gyson i lwyddo’n emosiynol ac yn academaidd. 

“Roedd y cymhwyster a ges i am gwblhau’r cwrs ynghyd â’r profiad a ges i drwy wneud lleoliad mewn ysgol gynradd ar gyfer y cwrs yn fy ngalluogi i sicrhau swydd barhaol fel Cymhorthydd Addysgu Anghenion Addysgol Arbennig mewn ysgol iau, sydd yn ei dro yn golygu y galla’ i symud ymlaen i astudio ar gyfer fy lefel 3.

“Roedd fy aseswyr drwy gydol y cwrs cyfan yn hollol anhygoel, yn ymatebol pryd bynnag y bo angen, yn gyfeillgar ac yn ysgogol, yn ogystal â chynnig adborth defnyddiol bob amser. “

Dangos rhagor
Level 2 Supporting Teaching And Learning in Schools Apprentice Ruby Ballantyne

Ruby Ballantyne

Wedi astudio – Lefel 2 mewn Cynorthwyo Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion

Erbyn hyn – Ysgol Croes Atti

Fy hoff beth am astudio fel prentis ydy gallu cael profiad mewn maes dwi’n ei fwynhau, ac mae’n rhoi cipolwg ar y diwydiant i’ch helpu i benderfynu ar y cam nesaf yn eich gyrfa. Ar ôl gorffen fy mhrentisiaeth, dwi’n gobeithio parhau gyda fy nysgu a dod yn athrawes. Dwi’n meddwl y bydd Cambria yn fy helpu i wneud hynny trwy roi’r cerrig camau sydd eu hangen arna’ i i gyrraedd fy nod.

“Cyn dechrau yng Ngholeg Cambria, roeddwn i wedi gwneud y rhan fwyaf o fy addysg yn Gymraeg, felly roedd gallu astudio fy nghymhwyster yn Gymraeg yn andros o ddefnyddiol gan fy mod i wedi arfer gyda thermau penodol. Roedd hi’n ddryslyd trio eu deall yn Saesneg.

“Eleni fe wnes i ennill gwobr myfyrwyr hefyd, a dwi’n falch bod fy holl waith caled yn cael ei gydnabod.

Dangos rhagor

Siaradwch â'r tîm

Os ydych yn chwilio am brentisiaeth, cysylltwch â ni heddiw!

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

0300 30 30 006

mail svg

Cyfeiriad e-bost

Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Previous slide
Next slide
Astudiaethau Achos
Hairdresser, Kimberly Jones taking a hero shot at her salon looking at the camera

Kimberly Jones

“Yn ystod fy mhrentisiaeth roeddwn yn cael yr hyfforddiant yn ogystal â chael fy nhalu. Mae’n agor eich llygaid i’r amgylchedd gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.

Dwi’n meddwl bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth fel person aeddfed yn wych.”

Dangos Rhagor
A hairdressing student cutting someone's hair in a salon

Jane Moore

“Yn ystod fy mhrentisiaeth roeddwn yn cael yr hyfforddiant yn ogystal â chael fy nhalu. Mae’n agor eich llygaid i’r amgylchedd gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.

Dwi’n meddwl bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth fel person aeddfed yn wych.”

Dangos Rhagor
A Construction Apprentice in their office looking towards the camera with plans on the stand up table below her

Alice Stansford

“Yn ystod fy mhrentisiaeth roeddwn yn cael yr hyfforddiant yn ogystal â chael fy nhalu. Mae’n agor eich llygaid i’r amgylchedd gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.

Dwi’n meddwl bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth fel person aeddfed yn wych.”

Dangos Rhagor
Chwilio am brentisiaeth? Cymerwch gip ar ein Siop Swyddi i weld y prentisiaethau gwag!
Chwilio am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Prentisiaethau Gwag Llywodraeth Cymru!

Cyflogwyr yr ydym yn gweithio â nhw

North Wales Fire and Rescue Service logo

Gwybodaeth i'r Cyflogwr

Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
06/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored – Llaneurgain
16/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.