Home > Prentisiaethau > Gweld Pob Maes Pwnc > Busnes, Rheoli ac Arwain
Busnes, Rheoli ac Arwain
Busnes, Rheoli ac Arwain
Gwybodaeth am Brentisiaethau
Pam Dewis Prentisiaeth?
Dechreuwch eich gyrfa gyda phrentisiaeth i ennill cyflog wrth ddysgu.
Mae cwmnïau ledled Gogledd Cymru a thu hwnt yn recriwtio pobl ar gyfer prentisiaethau a hyfforddiant yn y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfa.
Fel prentis byddwch chi’n ennill cyflog wrth ddysgu, ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad a chymwysterau cydnabyddedig ar hyd y ffordd. P’un ai rydych chi rhwng 16 ac 19 oed neu’n 20 oed neu’n hŷn, gallai ystod o opsiynau prentisiaeth fod ar gael i chi.
Os ydych chi’n gweithio ym maes rheoli ac eisiau cymhwyster i brofi eich sgiliau, gall Prentisiaeth mewn rheoli gael ei deilwra i fod yn addas i’ch gweithle ac amrywiaeth anferth o ddiwydiannau i bobl â phob lefel o brofiad.
Bydd dysgwyr yn gweithio tuag at gwblhau cymhwyster Sefydliad Arwain a Rheoli (ILM) trwy asesiad yn y gwaith a chael y cyfle i fynd i hyfforddiant dosbarth yn ein Hysgol Fusnes Cambria i hybu sgiliau a gwybodaeth y gellir eu defnyddio mewn tasgau rheoli o ddydd i ddydd.
Mae angen i ddysgwyr sy’n cwblhau’r cymwysterau hyn fod yn llawn cydymdeimlad, yn drefnus a bod â sgiliau cyfathrebu ardderchog.
Y Prentisiaethau Rydym yn eu Cynnig
Rydym yn cynnig hyfforddiant prentisiaeth lefel 2,3,4 a 5 mewn rheoli.
Diploma Lefel 2 ILM mewn Arwain Tîm
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol
Hyd arferol – 15 mis
Dull Astudio ac Asesu – Rhyddhau o’r gwaith am ddiwrnod (dewisol) ac asesiad yn y gwaith
Lleoliad – Y Gweithle ac Ysgol Fusnes Cambria (dewisol)
Diploma Lefel 3 ILM mewn Rheoli
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol
Hyd arferol – 17 mis
Dull Astudio ac Asesu – Rhyddhau o’r gwaith am ddiwrnod (dewisol) ac asesiad yn y gwaith
Lleoliad – Y Gweithle ac Ysgol Fusnes Cambria (dewisol)
Diploma Lefel 4 ILM mewn Arwain a Rheoli
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol
Hyd arferol – 18 mis
Dull Astudio ac Asesu – Rhyddhau o’r gwaith am ddiwrnod ac asesiad yn y gwaith
Lleoliad – Y Gweithle ac Ysgol Fusnes Cambria
Diploma Lefel 5 ILM mewn Arwain a Rheoli
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol
Hyd arferol – 21 mis
Dull Astudio ac Asesu – Rhyddhau o’r gwaith am ddiwrnod ac asesiad yn y gwaith
Lleoliad – Y Gweithle ac Ysgol Fusnes Cambria
April Wilkinson
Wedi astudio – Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli
Erbyn hyn –Rheolwr Technegol yn Tata Steel
“Er fy mod i wedi rheoli pobl ers nifer o flynyddoedd, doedd gen i ddim unrhyw gymwysterau rheoli ffurfiol. Roeddwn i eisiau gwneud y cymhwyster yma oherwydd bod staff a oedd yn atebol i mi yn cychwyn ar y cymhwyster Lefel 4, felly roeddwn i’n meddwl y byddai’n dda gwneud hyn ar yr un pryd.
“Fe wnes i ddysgu offer newydd y galla’ i eu defnyddio yn y gweithle a wnaeth fy helpu i ystyried a deall sut mae unigolion yn perfformio fel rhan o dîm, ac oherwydd bod yr elfen NVQ yn cael ei chyflwyno yn y swydd fe helpodd fi i adfyfyrio ar y gweithgareddau yr ydw i’n eu perfformio o ddydd i ddydd yn fy swydd.
“Erbyn hyn dwi’n Rheolwr Technegol yn Tata Steel a dwi’n ystyried opsiynau ar gyfer astudio gradd mewn Arwain a Rheoli.”
Lisa Owen
Wedi astudio – Lefel 5 ILM mewn Annog a Mentora
“Mi wnes i ddewis astudio Annog a Mentora gan fy mod i wir yn mwynhau helpu eraill ac roeddwn i eisiau dysgu sgil newydd a fyddai’n ategu’r gwaith dwi’n ei wneud rŵan ac yn fy ngalluogi i wneud gwaith hunangyflogedig yn y dyfodol.
“Mae wedi fy helpu oherwydd rŵan dwi’n teimlo fy mod i wedi dysgu sgiliau annog hanfodol dwi’n eu defnyddio yn fy swydd bresennol fel arweinydd tîm a dwi’n gweithio ar adeiladu busnes annog a hyfforddi busnesau bach sy’n canolbwyntio’n benodol ar rai meysydd allweddol fel Niwrogynhwysiant a phobl ifanc.
“Roedd fy nhiwtor, Ant yn wych o’r dechrau i’r diwedd, gan roi’r cymorth ac arweiniad roeddwn i’w hangen i orffen y cwrs.”
Ymweld â'n horiel
Astudiaeth Achos
April Wilkinson
Rheolwr Technegol yn Tata Steel
Er fy mod i wedi rheoli pobl am nifer o flynyddoedd, doedd gen i ddim cymwysterau rheoli ffurfiol. Roeddwn i eisiau gwneud y cymhwyster hwn oherwydd roedd y staff roeddwn i’n rheolwr arnyn nhw yn dechrau’r cymhwyster Lefel 4, felly roeddwn i’n meddwl y byddai’n dda i mi wneud y cymhwyster hwn ar yr un pryd.
Gwnes i ddysgu sgiliau newydd er mwyn i fi eu rhoi ar waith yn y gweithle, mae hyn wedi fy helpu i ystyried a deall sut mae unigolion yn perfformio fel rhan o dîm. Roedd yr elfen NVQ yn cael ei gyflwyno yn y swydd felly gwnaeth hynny fy helpu i adfyfyrio ar y gweithgareddau dwi’n eu gwneud yn fy swydd o ddydd i ddydd.
Erbyn hyn dwi’n Rheolwr Technegol yn Tata Steel a dwi’n ystyried opsiynau ar gyfer astudio gradd mewn Arwain a Rheoli.
Jane Moore
“During my apprenticeship I was getting the training as well as getting paid. It opens your eyes up to the working environment and gets you ready for your future.
I think it’s brilliant to have the opportunity to do an apprenticeship as a mature person.”
Alice Stansford
“During my apprenticeship I was getting the training as well as getting paid. It opens your eyes up to the working environment and gets you ready for your future.
I think it’s brilliant to have the opportunity to do an apprenticeship as a mature person.”
Chwilio am brentisiaeth? Cymerwch gip ar ein Siop Swyddi i weld y prentisiaethau gwag!
Chwilio am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Prentisiaethau Gwag Llywodraeth Cymru!
Y Cyflogwyr Rydym yn Gweithio Gyda Nhw
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
Digwyddiad Agored – Llaneurgain
16 oed neu'n hŷn
Gall unrhyw un sy'n hŷn nag 16 ymgymryd â phrentisiaeth
Cyflogedig/Uwchsgilio
Os ydych chi'n weithiwr sydd eisiau uwchsgilio a rhoi hwb i'ch rhagolygon gyrfa
Cyflogaeth yn y Dyfodol
Gall cyflogwr gynnig eich rhoi chi ar brentisiaeth
Sut mae'n gweithio
Yng Nghymru, mae angen i Brentisiaid fod yn 16 oed neu’n hŷn ac yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos i gwblhau Prentisiaeth. Rhaid i’r cyflogwr fod yn awyddus i’ch cefnogi chi gyda’r Brentisiaeth gan y byddwch yn cael eich asesu yn y gweithle ac efallai y bydd angen i chi fynd i’r coleg yn rheolaidd (mae hyn yn dibynnu ar y cymhwyster) i ddysgu sgiliau newydd a chwblhau unrhyw arholiadau.
Bydd ymarferydd sydd â phrofiad yn y diwydiant yn cael ei bennu i chi a fydd yn dod i’r gweithle ac yn gosod tasgau i chi i gasglu tystiolaeth sy’n mynd tuag at eich cymhwyster. Hefyd byddant yn gwirio eich llesiant ac yn sicrhau nad oes unrhyw broblem neu yn eich cyfeirio chi at gymorth ychwanegol yn Cambria os oes angen.
Rhagor o wybodaeth am brentisiaethau ar wefan Llywodraeth Cymru
Beth mae prentisiaeth yn ei gynnwys?
Ymrwymiad gennych chi i weithio'n galed a bod yn angerddol am eich datblygiad.
Ymrwymiad gan eich cyflogwr i gefnogi eich datblygiad a'ch dysgu.
Cyfarfodydd rheolaidd gyda'ch ymarferydd a'ch tiwtoriaid.
Ar ôl cwblhau'r brentisiaeth, byddwch wedi ennill sawl cymhwyster a thystysgrif prentisiaeth lawn.
Lefelau Prentisiaeth
Gellir darparu Prentisiaethau ar Lefel 2 – Lefel 6
Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2
Dyma’r man cychwyn ar gyfer prentisiaethau, mae’n rhoi’r sylfeini a dealltwriaeth o’r swydd i chi ac mae’n cyfateb i 5 TGAU
Prentisiaeth Lefel 3
Mae Lefel 3 yn ddilyniant naturiol o Lefel 2 ac mae’n rhoi rhagor o wybodaeth fanwl i chi am y pwnc ac mae’n gyfwerth â llwyddo mewn 2 gymhwyster Safon Uwch
Prentisiaeth Uwch Lefel 4 a 5
Mae cymwysterau Lefel 4/5 NVQ a HNC yn gyfwerth â’r flwyddyn gyntaf mewn Prifysgol fel arfer. Mae angen lefel uchel o wybodaeth a dealltwriaeth i astudio ar y lefel hon
Prentisiaeth Gradd Lefel 6
Mae’r cymwysterau Lefel 6 yn raddau a ddarperir mewn partneriaeth â’n partneriaid Prifysgol
Chwilio am brentisiaeth? Cymerwch gip ar ein Siop Swyddi i weld y prentisiaethau gwag!
Chwilio am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Prentisiaethau Gwag Llywodraeth Cymru!
Cwestiynau Cyffredin
Mae angen i chi fod yn gyflogedig i wneud Prentisiaeth
Gallwch wneud prentisiaeth mewn sawl sector – Cyllid, Digidol, Rheoli, Amaethyddiaeth, Lletygarwch ac Arlwyo, Gwallt a Harddwch – i enwi ond ychydig!
Rhaid i brentisiaid gael eu talu o leiaf yr isafswm cyflog Prentisiaeth gan eu cyflogwr, ond mae’r rhan fwyaf o leoedd yn talu rhagor. Gallwch weld y gofynion cyflog diweddaraf ar wefan y Llywodraeth
Mae llawer o gymorth ar gael i Brentisiaid trwy’r coleg gan gynnwys trwy eu hasesydd a gwasanaethau myfyrwyr.
Gall prentisiaid hefyd gyrchu ACAS neu wasanaethau cynghori eraill i gael cyngor