Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Cyngor ac Arweiniad

Play Video

Pam dewis Prentisiaeth?

Dechreuwch eich gyrfa gyda phrentisiaeth i ennill cyflog wrth ddysgu.

Mae cwmnïau ledled Gogledd Cymru a thu hwnt yn recriwtio pobl ar gyfer prentisiaethau a hyfforddiant yn y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfa.

Fel prentis byddwch chi’n ennill cyflog wrth ddysgu, ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad a chymwysterau cydnabyddedig ar hyd y ffordd. P’un ai rydych chi rhwng 16 ac 19 oed neu’n 20 oed neu’n hŷn, gallai ystod o opsiynau prentisiaeth fod ar gael i chi.

Mae argraff gyntaf busnes yn bwysig iawn ac mae pobl sy’n gweithio mewn swyddi sy’n delio â chwsmeriaid yn cael effaith enfawr ar brofiad cwsmeriaid!

Gall prentisiaid sy’n cwblhau’r cymwysterau hyn fod yn gweithio mewn ystod eang o sectorau gan ddefnyddio gwahanol fathau o gyfathrebu gan gynnwys wyneb yn wyneb a thros y ffôn.

Asesir y cwrs hwn yn y gwaith gan ein timau sydd â phrofiad yn y diwydiant ac mae cymorth ychwanegol ar gael.

Y Prentisiaethau rydym yn eu cynnig

Rydym yn cynnig hyfforddiant prentisiaeth Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Gwerthiannau, Canolfan Gyswllt a Chyngor ac Arweiniad ar Lefel 2, 3 a 4.

Diploma Lefel 2 mewn Gwasanaethau i Gwmseriaid

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 14 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith

Lleoliad – Gweithle

Diploma Lefel 3 mewn Gwasanaethau i Gwmseriaid

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 13 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith

Lleoliad – Gweithle

Diploma Lefel 3 mewn Cyngor ac Arweiniad

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 18 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith

Lleoliad – Gweithle

Diploma Lefel 4 mewn Cyngor ac Arweiniad

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 18 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith

Lleoliad – Gweithle

Mandy Griffiths

Mandy Griffiths

Wedi Astudio – Lefel 4 mewn Cyngor ac Arweiniad

Erbyn hyn – Gweithio yn Local Solutions

“Fe wnes i adael yr ysgol gyda nifer bach o gymwysterau ac er mod i wedi gweithio erioed, mae’r diffyg cymwysterau wedi cael ei adlewyrchu yn fy ngraddfa dâl. Ro’n i eisiau profi mod i’n gallu cwblhau cymhwyster gan mai dyna’r cwbl oedd yn fy nal i’n ôl rhag symud ymlaen.

“Fe wnaeth fy nghyflogwr yn Local Solutions roi llawer o gyfleoedd i mi a diolch byth, gyda help ac arweiniad gan Lynsay Lorey-Jones, fy asesydd yn y coleg, fe wnes i allu cwblhau fy nghymhwyster cyntaf.

Roedd gallu cwblhau’r cymhwyster yn y gwaith wedi galluogi i mi barhau i gyfrannu a chefnogi fy nheulu wrth weithio ar wella fy rhagolygon y dyfodol.

“Dwi eisiau tynnu sylw arbennig at Lynsay – fe wnaeth hi roi’r ffydd i mi y baswn i’n gallu cwblhau’r cwrs yma. Mae bob amser yn anodd meddwl am astudio, gwneud gwaith cartref a defnyddio technoleg pan dydi o ddim yn dod yn naturiol, yn enwedig pam mae’n rhywbeth nes i erioed ei wneud yn yr ysgol.

“Doeddwn i ddim y person mwyaf academaidd ond fe ges i’r cyfle gan Local Solutions a Choleg Cambria i gael cymhwyster gwerthfawr.”

Show more
frankie - Yale 6 (1)

Frankie McCamley

Studied – A Level English, Drama, Maths and French

Currently – Presenter and News Correspondent for the BBC 

“I wasn’t sure what I wanted to do in the future, so I chose a range of different subjects to study at A Level. I’m now employed by the BBC as a Presenter and News Correspondent and studying at Yale Sixth gave me the confidence and skills to go onto university. I made some amazing friends, had some great teachers who I’ll never forget and had a great time in Wrexham! 

“I look back on my time at Yale with pride and fondness and will never forget it!”

Show more

Siaradwch â'r tîm

Os ydych yn chwilio am brentisiaeth, cysylltwch â ni heddiw!

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

0300 30 30 006

mail svg

Cyfeiriad e-bost

Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Previous slide
Next slide
Astudiaethau Achos
Hairdresser, Kimberly Jones taking a hero shot at her salon looking at the camera

Kimberly Jones

“Yn ystod fy mhrentisiaeth roeddwn yn cael yr hyfforddiant yn ogystal â chael fy nhalu. Mae’n agor eich llygaid i’r amgylchedd gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.

Dwi’n meddwl bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth fel person aeddfed yn wych.”

Dangos Rhagor
A hairdressing student cutting someone's hair in a salon

Jane Moore

“Yn ystod fy mhrentisiaeth roeddwn yn cael yr hyfforddiant yn ogystal â chael fy nhalu. Mae’n agor eich llygaid i’r amgylchedd gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.

Dwi’n meddwl bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth fel person aeddfed yn wych.”

Dangos Rhagor
A Construction Apprentice in their office looking towards the camera with plans on the stand up table below her

Alice Stansford

“Yn ystod fy mhrentisiaeth roeddwn yn cael yr hyfforddiant yn ogystal â chael fy nhalu. Mae’n agor eich llygaid i’r amgylchedd gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.

Dwi’n meddwl bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth fel person aeddfed yn wych.”

Dangos Rhagor
Chwilio am brentisiaeth? Cymerwch gip ar ein Siop Swyddi i weld y prentisiaethau gwag!
Chwilio am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Prentisiaethau Gwag Llywodraeth Cymru!

Cyflogwyr yr ydym yn gweithio â nhw

The Magellan Aerospace logo
The Electroimpact logo
The Flintshire County Council Logo

Gwybodaeth am y Cyflogwr

Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
06/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored – Llaneurgain
16/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.