Cafodd dysgwyr lefel 2 Paentio ac Addurno ac Adeiladu o Goleg Cambria y dasg o gynorthwyo Gwarcheidwaid Tŵr Cloc John Summers yng Nglannau Dyfrdwy.
Yn eu mysg roedd Jack Hughes, 17, o Gei Connah, un o garfan ddiwyd ac ymroddedig dan arweiniad y darlithydd Keith Massey a Chyfarwyddwr Sefydliad Enbarr, Vicki Roskams.
Roeddent yn canolbwyntio ar seler y strwythur rhestredig gradd II, cyn-bencadlys Tata Steel yng Ngogledd Cymru.
Yn gyn-fyfyriwr Ysgol Alun yr Wyddgrug, roedd Jack yn falch o gael cyfle o’r fath.
“Mae’n brofiad gwych bod ar y safle a chael profiad ymarferol wrth helpu i roi bywyd newydd i dŵr y cloc,” meddai.
“Mae’n werthfawr i’r gymuned, felly rydyn ni’n falch o gael helpu.”
Ychwanegodd ei gyd-fyfyriwr, David Feraru: “Rydyn ni wedi bod yma ers ychydig wythnos, yn stripio waliau, paentio a rhagor o waith paratoi.
“Mae wedi rhoi blas i ni ar sut beth fyddai gwneud hyn fel gyrfa felly mae’n brofiad gwych.”
Mae Keith yn credu y bydd gweithio ochr yn ochr â chontractwyr a chrefftwyr proffesiynol yn amhrisiadwy i’r grŵp yn y dyfodol.
“Rydyn ni wedi bod yma yn ystod y gaeaf, a byddwn ni’n ôl cyn yr haf wrth i’r cynllun symud yn ei flaen,” meddai.
“Mae mor bwysig i’r myfyrwyr adael yr ystafell ddosbarth a chael blas ar yr hyn y byddan nhw’n ei wneud pan fyddan nhw’n gadael y coleg, mewn amgylchedd realistig gyda phwysau a heriau’r diwydiant.
“Maen nhw wedi gwneud yn dda iawn ac maen nhw’n dysgu sgiliau newydd o hyd. Roedd yn gyfle iddyn nhw a’u cyd-ddysgwyr gael profiad o ddisgyblaethau fel gwaith plastro a gwaith brics, a fydd yn rhan o’r prosiect yma wrth iddo fynd rhagddo.”
Diolchodd Vicki iddyn nhw am eu cyfraniad i’r gwaith ailddatblygu, gan ychwanegu: “Mae’r gwaith maen nhw’n ei wneud yma yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol; mae’n etifeddiaeth iddyn nhw gan y bydd popeth maen nhw’n ei wneud yma am flynyddoedd i ddod.
“Mae’r myfyrwyr yn gwneud diwrnod caled o waith mewn amodau anodd yn aml – yn enwedig o ystyried y tywydd oer dros yr wythnosau diwethaf – ond maen nhw wedi bod yma bob dydd yn gwneud shifft iawn.
“Rydyn ni’n ddiolchgar iddyn nhw ac yn falch o gael effaith gadarnhaol ar eu haddysg.”
I gynorthwyo datblygiad Tŵr y Cloc, anfonwch e-bost vicki@enbarrenterprises.com neu ewch i dudalen Facebook ‘Guardians of the Clock Tower’.
Ewch i www.cambria.ac.uk i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.