Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

TB6

Mae Meithrinfa Toybox – sydd wedi’i lleoli ar safle Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria – wedi cael adroddiad rhagorol gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

Cafodd y lleoliad gradd ‘Rhagorol’ ym mhob un o’r pedwar categori – Llesiant, Gofal a Datblygu, Arwain a Rheoli, a’r Amgylchedd – a doedd dim awgrymiadau oherwydd bod y safonau mor uchel.

Mae’r feithrinfa yn gofalu am dros 90 o blant, a chafodd Rheolwr Meithrinfa Toybox sef Ann Johnson a’i thîm cadarn o 35 gweithiwr eu canmol am gyflwyno gofal sy’n “hyrwyddo llesiant plant ac yn sicrhau eu bod yn ddiogel”.

Ychwanegodd yr adroddiad: “Mae’r rhain yn wasanaethau sydd wedi ymrwymo i wella parhaus ac mae ganddynt lawer o gryfderau, gan gynnwys enghreifftiau arwyddocaol o arfer ac arloesedd sy’n arwain y sector.

“Maent yn cyflwyno gofal a chymorth o ansawdd uchel ac maent yn gallu arddangos eu bod yn cyfrannu’n gadarn at wella llesiant y plant.

“Mae’r plant yn hapus iawn ac yn mwynhau eu profiadau chwarae a dysgu, maent yn dysgu parch ac yn rhyngweithio ag eraill, gan ddysgu rhannu a dangos tosturi.

“Mae staff yn rhyngweithio’n gadarnhaol gyda’r plant, gan eu cynorthwyo a’u hannog nhw i fod yn barchus a mwynhau eu profiadau.

“Mae’r bobl sy’n arwain yn y feithrinfa wedi creu amgylchedd hyfryd sydd wedi’i seilio ar anghenion, cysur a dysgu’r plant. Mae’n cynnwys adnoddau sy’n ysbrydoli’r plant ac yn eu helpu i ddod yn ddysgwyr chwilfrydig.

“Mae’r tîm ymroddedig o staff yn cael eu rheoli’n dda, gan sicrhau bod plant yn cael y gofal gorau posibl.”

Mae Ann, sydd wedi bod yn gweithio yn Toybox ers dros 30 mlynedd, mae hi wrth ei bodd gydag adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru, mewn ymateb i’r adroddiad, dywed hi: Rydyn ni wrth ein bodd i fod ein holl waith caled yn cael ei adnabod, mae gennym ni dîm angerddol, cwbl gymwys yma sy’n gwneud eu gorau glas bob dydd – dwi’n falch iawn ohonyn nhw.

“Mae niferoedd yn cynyddu eto yn dilyn y pandemig – o ystyried bod llawer o fyfyrwyr yn dysgu o bell a bod cleientiaid preifat yn gweithio o gartref – felly rydyn ni’n brysurach nag erioed, ac mae’r adroddiad yma yn gwneud i ni ymdrechu i wneud hyd yn oed yn well.

“Rydyn ni’n diolch i Arolygiaeth Gofal Cymru am ei hamser ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddatgelu syniadau a chyfleusterau newydd dros y flwyddyn nesaf.”

Yn eu plith bydd man chwarae awyr agored ar ei newydd wedd, sy’n cynnwys arwynebau diogelwch, ffensys, dodrefn ac offer pren, wedi’u hariannu gan Gynllun Grantiau Bychan Cyngor Sir y Fflint.

Ewch i dudalen Facebook Meithrinfa Toybox: www.facebook.com/ToyboxNurseryDeeside neu ffoniwch 01978 267159i gael rhagor o wybodaeth. Fel arall anfonwch e-bost at toybox@cambria.ac.uk.

Am ragor o newyddion a gwybodaeth gan Goleg Cambria, ewch i: www.cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost