Mae Coleg Cambria yn noddi’r Parth Plant ac Ieuenctid yng ngŵyl Pride Caer eleni.
Mae miloedd o bobl yn heidio i’r digwyddiad rhad ac am ddim yn y ddinas sy’n cynhyrchu dros £2 miliwn bob blwyddyn ar gyfer yr economi leol – bydd yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 19 Awst.
Mae Swyddogion Ymgysylltu Llais Myfyrwyr Mark-Ryan Hughes a Robert Jones, Cydlynydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Alice Churm, wrth eu bodd i gadarnhau eu partneriaeth yn rhagor gyda Pride Caer ar ôl i’r coleg ddatgelu cynllun gweithredu dwy flynedd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth sy’n canolbwyntio ar wella cysylltiadau cymunedol, ymgysylltu dysgwyr a staff, ac ymgyrchu ar gyfer coleg mwy cyfartal a chynhwysol i bawb.
Mae’n dilyn arolwg diweddar o ddysgwyr Cambria, a ddangosodd fod bron i 20% yn nodi eu bod yn LHDTC+, a 13.3% yn nodi eu bod yn drawsrywiol neu’n anneuaidd. Mae tua 2.7% o staff y coleg hefyd yn nodi eu bod yn LHDTC+ .
“Mae gennym ni gymuned gadarn o staff a dysgwyr LHDTC+ yma yn Cambria, ac mae’n gyfle gwych i ddangos ein cydgefnogaeth gyda Pride a phopeth mae’r ymgyrch yn ei gynrychioli,” meddai Alice.
“Oherwydd hyn rydyn ni’n teimlo bydd gweithio mewn partneriaeth â Pride Caer yn ddathliad hyfryd i fyfyrwyr a staff, gan gefnogi datblygu ac ehangu Pride a dathlu’r gymuned LHDTC+ yma yn y gogledd ddwyrain.”
Ychwanegodd Mark: “Rydyn ni wedi gwneud cynnydd anhygoel o ran cynnig cymorth, dathliad a chynnig amgylchedd croesawgar i’n staff a’n dysgwyr LHDTC+, a bydd y berthynas yma gyda’r digwyddiad yn cadarnhau ein dull newydd o fod hyd yn oed yn fwy gweladwy yn ein mentrau cydraddoldeb.
“Pride Caer ydi’r dathliad Pride mwyaf yn y cymunedau o amgylch Cambria a bydd yn creu cysylltiad cadarn rhwng y coleg a’r gymuned LHDTC+ yn yr ardal leol.”
Bydd Pride Caer yn cael ei gynnal yng nghanol y ddinas, ac yn cynnwys parêd lliwgar, a llwythi o adloniant gyda gwerthwyr bwyd a diod a mannau penodol a gweithgareddau i deuluoedd a phobl o bob oed.
Bydd dros 40 o arddangoswyr yn bresennol yn cynnig gwybodaeth, arweiniad a chyngor, ac mae pabell llesiant Just Ask yno i gyfeirio a cyfeirio unrhyw un sydd â phryderon neu broblemau at sefydliadau a gwasanaethau fel cwnsela cymheiriaid, a chyfeillio.
Dywedodd Warren Lee Allmark sef Cadeirydd Pride Caer: “Rydyn ni’n falch iawn i groesawu Coleg Cambria fel noddwr ein digwyddiadau 2023. Mae addysg yn adnodd pwerus iawn ar gyfer deall materion LHDTC+ a’r hawliad rydyn ni’n eu herio ar hyn o bryd ar gyfer pob rhan o’n cymuned ni.
“Mae Cambria wedi arddangos bod materion LHDTC+ wrth wraidd yr hyn y maen nhw’n ei wneud i sicrhau bod yr holl staff a’r myfyrwyr yn cael eu croesawu, eu derbyn a’u deall.”
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at equalityanddiversity@cambria.ac.uk.
Ewch i www.cambria.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth ar yr ystod o gyrsiau a chymwysterau sydd ar gael yng Ngholeg Cambria.