Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

weldingskills23

Cynrychiolwyd y coleg yng ngogledd ddwyrain Cymru gan 124 o ddysgwyr a phrentisiaid mewn ystod eang o feysydd, gan gyflawni 15 medal aur, deg medal arian a chwe medal efydd.

Ymhlith y rhai a ddaeth yn fuddugol oedd Joshua Mitchell am Ddiogelwch Rhwydwaith TG; Jack Sherry, Ward Tylor a Daniel Ward yn yr Her Tîm Gweithgynhyrchu; yr arbenigwyr Menter Harrison Hughes, Celyn Jones, Lois Jones, Karys Jones ac Izzy Roberts; y prentis Airbus Aiden Williams am Beirianneg Awyrennau; y dysgwr Sgiliau Cynhwysol (TG) Paris Povey; Stephen Kelly am Dechnoleg Fodurol Cerbydau Ysgafn; y Therapydd Harddwch Halle Ennion; y prentis Weldio MG Peirianneg James Jones, a Zac Winn o Boweld Truck Bodies am Weldio.

Meddai’r Rheolwr Profiad Dysgwyr a Menter, Rona Griffiths: “Llongyfarchiadau mawr i’n holl enillwyr medalau ac i’r holl fyfyrwyr a gymerodd ran, mae’r coleg yn falch iawn ohonoch chi.

“Daeth eich gwaith caled a’ch sgìl i’r amlwg, fel y maen nhw bob blwyddyn pan fyddwn yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth, ac mae’n anrhydedd enfawr fod Cambria a’n partneriaid yn y diwydiant wedi dod i’r brig.

“Yn anad dim, fe wnaeth y dysgwyr fwynhau cael llwyfan i arddangos eu doniau yn fawr, a bydd hyn yn rhoi profiad hanfodol iddyn nhw wrth iddyn nhw symud ymlaen yn eu gyrfaoedd.”

Cynhaliwyd y digwyddiad dathlu yn rhithiol eto eleni, gyda chwech digwyddiadau lloeren a thri digwyddiad parti gwylio yn cael eu cynnal gan ddarparwyr ledled Cymru, gan gynnwys Coleg Cambria.

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei redeg gan rwydwaith ymroddgar o golegau, darparwyr dysgu yn y gwaith a sefydliadau wedi’u harwain gan gyflogwyr, drwy brosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yw ysbrydoli ac uwchsgilio cenedlaethau’r dyfodol drwy ddatblygu sgiliau galwedigaethol pobl ifanc wrth ddathlu eu cyflawniadau.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn blatfform ardderchog i bobl ifanc herio eu hunain a phrofi eu sgiliau.

“Wedi cefnogi a mynychu nifer o’r cystadlaethau yn y gorffennol, rwyf wedi gweld drosta’i fy hun y dalent anhygoel sydd gan Gymru i’w gynnig. Cafodd brwdfrydedd y cyfranogwyr argraff arbennig arna’i. Roedd eu brwdfrydedd dros eu crefft yn amlwg wrth iddyn nhw wneud eu gorau glas a chystadlu am yr anrhydeddau uchaf.

“Hoffwn longyfarch pob cystadleuydd ar eu llwyddiannau hyd yma. Mae gan bob un ohonoch chi daith gyffrous iawn o’ch blaen.”

Daw’r llwyddiant hwn ar ôl i ddau brentis o Cambria gael eu dewis i garfan WorldSkills UK cyn digwyddiad rhyngwladol WorldSkills a gynhelir yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.

Bydd Rosie Boddy a Timoteusz Rozanski yn ymgymryd â rhaglen hyfforddi ddwys 18 mis i geisio profi bod ganddyn nhw’r gallu i gystadlu yn erbyn cynrychiolwyr o bob cwr o’r byd yn Lyon ym mis Medi 2024.

Ewch i www.cambria.ac.uk am y wybodaeth a’r newyddion diweddaraf gan Goleg Cambria.

Am ragor o wybodaeth am Gystadleuaeth Sgiliau Cymru, ewch i www.inspiringskills.gov.wales 

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost