Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

SarahEllisNWWT

Wedi’i drefnu gan Anna Grimaldi a Lucy Windsor-Jones, sy’n astudio Rheoli Anifeiliaid yng Ngholeg Cambria, mynychwyd y digwyddiad yn Ysgol Fusnes Llaneurgain gan dros 30 o fusnesau, sefydliadau cadwraeth ac aelodau o’r cyhoedd.

I ddathlu Wythnos y Ddaear, roedd cyfres o gyflwyniadau yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, o ailgoedwigo yng Nghosta Rica i lygredd dŵr a phlastig, bioamrywiaeth a chafwyd sgyrsiau gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar ‘Dirwedd Fyw’ y wlad, UK Youth For Nature, a Jackson’s Animal Rescue, Cilgwri.

Roedd Anna, o Ruthun, a Lucy o Fodelwyddan eisiau rhoi llwyfan i’w cyd-ddisgyblion Lefel 4 a Lefel 5 ar y rhaglen HND arddangos eu prosiectau angerdd.

“Diolch i bawb a fynychodd, roedd yn gyfle pwysig i ni ddod â phobl at ei gilydd i arddangos gwaith ein cyd-fyfyrwyr ac amlygu’r heriau sy’n ein hwynebu wrth wneud gwahaniaeth yn y blynyddoedd i ddod,” meddai Anna.

Ychwanegodd Lucy: “Cafodd amrywiaeth eang iawn o bynciau eu trafod, roedd yr adborth yn wych, ac rydyn ni’n ddiolchgar dros ben i bawb wnaeth fynychu.”

Roedd ‘wal addunedau’ yn darparu lle i bobl ymrwymo i newid a rhannu syniadau ar y ffordd orau i ostwng eu hôl-troed carbon.

Llongyfarchwyd y dysgwyr gan arweinydd y rhaglen Rheoli Anifeiliaid, Sadie Thackaberry, gan lansio cymhwyster newydd ar y noson, sef y Dystysgrif Lefel 2 mewn Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd Gwyrdd.

“Roedd gweld cymaint o bobl yn uno gyda’r coleg wrth geisio gwneud gwahaniaeth yn galonogol, a llongyfarchiadau i’r myfyrwyr am eu cyflwyniadau gwych,” meddai.

“Roedd yn procio’r meddwl, yn addysgiadol ac rwy’n credu bod pawb wedi dysgu rhywbeth, sef holl bwrpas y digwyddiad.”

Am y wybodaeth a’r newyddion diweddaraf o Goleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost