main logo
Background Splash

Gan Alex Stockton

20/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Yale Sixth Form outside

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.

Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Dewch i’n gweld ni yn ein Digwyddiadau Agored lle gallwch chi:

  • Ddarganfod beth sydd ar gael
  • Archwilio ein cyfleusterau o’r radd flaenaf
  • Siarad â’n tiwtoriaid arbenigol
  • Cael ateb i’ch holl gwestiynau
  • Cyfarfod ein myfyrwyr presennol
  • Gwnewch gais am gwrs

I wneud y mwyaf o’r amser sydd ar gael, rydyn ni’n argymell eich bod yn cyrraedd 5.00pm.

Mae nifer y tocynnau yn gyfyngedig ar gyfer y digwyddiadau hyn i’ch galluogi chi i fwynhau’r digwyddiad agored mewn amgylchedd cyfeillgar synhwyraidd heb heidiau o bobl.

Mae dyddiadau ein Digwyddiadau Agored Hygyrch eraill fel a ganlyn:

Deeside / “https://www.cambria.ac.uk/events/diwrnod-agored-hygyrch-glannau-dyfrdwy-a-chweched-glannau-dyfrdwy/?lang=cy” Deeside Sixth – Nos Iau 14 Tachwedd – 5:00pm to 6:00pm

Bersham Road – Nos Iau 21 Tachwedd – 5:00pm tan 6:00pm

Northop – Nos Fercher 27 Tachwedd – 5:00pm tan 6:00pm

Llysfasi – Nos Iau 28 Tachwedd – 5:00pm tan 6:00pm

Gallwch chi gadw eich lle cyn y dyddiadau yma, ac yn y cyfamser, mae pob croeso i chi edrych ar ein hawgrymiadau Digwyddiadau Agored!

Rydym yn cynnal ein prif Ddigwyddiadau Agored ar y dyddiadau isod:

Deeside / Deeside Sixth – Nos Fercher 6 Tachwedd – 5pm tan 7pm

Llysfasi – Dydd Sadwrn 9 Tachwedd – 10am tan 12pm

Yale / Yale Sixth / Bersham Road – Nos Fercher 13 Tachwedd – 5pm tan 7pm

Northop – Dydd Sadwrn 16 Tachwedd – 10am tan 12pm