Cyflawnodd Michael Shone, o Fwcle, elfen Cyflogaeth cynllun Twf Swyddi Cymru+ Llywodraeth Cymru, sydd wedi’i anelu at bobl 16-18 oed.
Treuliodd Michael chwe mis yn Cummins Independent Financial Advisers (IFA), yn yr Orsedd, ger Wrecsam a Chaer, lle cafodd arweiniad, ei fentora, a phrofiad gwerthfawr.
Cafodd y rhaglen ei hariannu gan Goleg Cambria – sydd wedi’i leoli yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llaneurgain a Llysfasi – ac roedd oedd eu tîm Twf Swyddi Cymru+ wrth law i gynnal adolygiadau misol, cefnogi Michael a’r cyflogwr, a hysbysebu unrhyw swyddi eraill drwy Siop Swyddi’r coleg.
Erbyn hyn mae wedi cael cynnig swydd lawn amser gyda’r cwmni fel gweinyddwr dan hyfforddiant, gan ddilyn ôl troed aelodau o’r teulu sydd eisoes yn gweithio yn y sector.
“Fe wnaeth cymryd rhan yn rhaglen Twf Swyddi Cymru+ roi cyfle i mi gael cipolwg ar yrfa ym maes cyngor ariannol,” meddai Michael.
“Rwy’n hapus iawn ‘mod i wedi cael cynnig cyflogaeth gan y cwmni a fy nghamau nesaf fydd astudio ar gyfer yr arholiadau angenrheidiol yn y gobaith o symud ymlaen i fod yn ymgynghorydd ariannol yn y dyfodol.”
Aeth Gerry Cummins, Cyfarwyddwr Cummins (IFA), ar drywydd y bartneriaeth ar ôl cael gwybod am y lwfans cymhorthdal oedran 26 wythnos.
O ganlyniad i hyn, y cwmni oedd y cyntaf i dderbyn y cyllid drwy Goleg Cambria.
“Roedd yr arian yn galluogi ein cwmni i gynnig y cyfle cyflogaeth i Michael a’i helpu i ddilyn ei ddarpar yrfa,” meddai Gerry.
“Rydyn ni wedi gallu rhannu ein sgiliau a’n gwybodaeth gydag ef dros y 26 wythnos ac mae wedi datblygu’n gyflym, gan gwblhau tasgau’n fedrus ac yn hyderus.
“Rydym yn falch o allu cynnig swydd lawn amser i Michael a’i groesawu i’r tîm.”
Ategwyd y geiriau hynny gan Alison Roberts, Swyddog Cydymffurfio ac Adolygu Cytundebol yn Cambria.
Dywedodd: “Llongyfarchiadau i Michael ar gyflawni ei swydd ddelfrydol a diolch i Cummins Independent Financial Advisers am yr arweiniad a’r cyngor a gafodd drwy gydol y lleoliad.
“Mae ei weld yn mynd ymlaen i swydd lawn amser gyda nhw yn galonogol ac yn dangos pa mor werthfawr yw cynllun cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ wrth helpu pobl ifanc i gael gwaith a hyfforddiant.
“Rydyn ni’n dymuno’r gorau iddyn nhw ar gyfer y dyfodol ac yn siŵr y bydd Michael yn mynd ymlaen i fwynhau gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant cyllid.”
Ewch i www.cambria.ac.uk am y wybodaeth a’r newyddion diweddaraf gan Goleg Cambria.
Gall cwmnïau sydd eisiau darganfod rhagor am gynllun Twf Swyddi Cymru+ yng Ngholeg Cambria anfon e-bost at JGWPlus@cambria.ac.uk.
Am ragor o wybodaeth am Cummins Independent Financial Advisers, ffoniwch 01244 571050 neu anfonwch e-bost at info@cumminsifa.com.
NODIADAU: Ariennir Twf Swyddi Cymru+ yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.