Bydd Coleg Cambria yn lansio ei Academi Arweinyddiaeth Ddigidol newydd ym mis Medi eleni.
Wedi’i gynnal yn Medru, sef ffatri sgiliau o’r radd flaenaf y coleg yng Nglannau Dyfrdwy, bydd yr Academi yn darparu datrysiad hyfforddiant sydd wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer diwydiant.
Ac mae’r cyrsiau’n rhad ac am ddim i unrhyw un sy’n gymwys am gyllid PLA (Cyfrif Dysgu Personol); dros 19 oed, yn hunangyflogedig, neu’n gyflogedig ac yn ennill llai na £29,534 y flwyddyn.
Dywedodd Cyfarwyddwr Datrysiadau Busnes Cambria, Nigel Holloway, bod ymateb cadarnhaol wedi bod eisoes gan wahanol feysydd masnachol yn y rhanbarth a thu hwnt.
“Yn y pen draw, mae hyn wedi’i anelu at arweinwyr, rheolwyr neu unrhyw un sy’n dymuno bod yn rheolwr mewn byd cynyddol ddigidol,” meddai.
“Yn enwedig ers dechrau pandemig Covid-19 pan ddechreuodd pobl weithio mwy o bell – ac mae llawer yn dal i wneud hynny – mae’n hollbwysig bod arweinwyr yn y sector preifat a chyhoeddus yn ymwybodol o ddatblygiadau cyflym mewn technoleg.
“Mae llawer o gwmnïau’n dal i fod yn ansicr ynglŷn â’r ffordd orau o symud tuag at ffyrdd newydd o weithio, sut gall y rhain fod o fudd iddyn nhw, pa sgiliau ac offer y bydd eu hangen arnyn nhw.
“Fel rhan o’r Academi Arweinyddiaeth Ddigidol gallwn eu cefnogi nhw gyda hynny.”
Gan gwmpasu themâu gwahanol, o Industry 4.0 – y pedwerydd chwyldro diwydiannol – i wneud penderfyniadau sy’n cael eu gyrru gan ddata, adrodd straeon digidol a mwy, dywed Nigel y bydd yn rhoi “sylfaen wybodaeth gyflawn” i ddysgwyr adeiladu arni.
“Mae hyn wedi’i anelu at unrhyw ddiwydiant lle mae ‘na elfen ddigidol, sef bob un ohonyn nhw i bob pwrpas,” ychwanegodd.
“Bydd y rhai sy’n cwblhau’r rhaglen mewn sefyllfa i ddychwelyd i’w gweithle a rhoi syniadau a strategaethau digidol newydd ar waith, oherwydd mae hynny’r un mor bwysig â’r wybodaeth a’r sgiliau y bydd pobl yn eu dysgu.
“Mae sicrhau bod cydweithwyr yn croesawu’r newid hwnnw, derbyn systemau a syniadau newydd, modern – boed hynny’n ddata mawr, deallusrwydd artiffisial, neu’n creu diwylliant digidol – ac ymuno ar y daith, yn mynd i fod yn dyngedfennol.”
Fel rhan o’r cwrs bydd cyfle i astudio a chyflawni’r Dystysgrif Lefel 4 ILM mewn Arwain a Rheoli.
Mae’r meysydd eraill dan sylw yn cynnwys y Bwlch Sgiliau Digidol, Ymgysylltu â Rhanddeiliaid, Deall Rhwystrau, Offer Rheoli Newid, Rhesymau dros Newid, Dadansoddi Amgylcheddol a Sefydliadol, a Methodolegau Main ac Ystwyth.
Am ragor o wybodaeth am yr Academi Arweinyddiaeth Ddigidol, ewch i www.cambria.ac.uk.