Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

International1

Dros y misoedd diwethaf, mae dysgwyr o safle Glannau Dyfrdwy y coleg wedi bod i ymweld â gwledydd ar draws Ewrop i gynyddu eu sgiliau ac archwilio’r gwahanol yrfaoedd ar y cyfandir.

Yn eu plith oedd grŵp o’r rhaglen lewyrchus E-chwaraeon, sydd wedi teithio i Barcelona, a grŵp o’r cwrs Trin Gwallt a Harddwch poblogaidd, sydd wedi treulio pythefnos yn torri gwalltiau mewn salonau blaenllaw yn Pistoria a Montecantini, yr Eidal.

Dywedodd Cyfarwyddwr Therapïau Gofal Julie Guzzo bod y trosglwyddiad gwybodaeth wedi cael effaith gadarnhaol ar fyfyrwyr a staff, gyda rhagor o weithgareddau wedi’u trefnu yn Sophia Hilton Salon yn Llundain, Banbri, Postiche a rhagor.

Mae partneriaethau gydag enwau adnabyddus yn fyd-eang gan gynnwys L’Oreal a Dermalogica wedi mynd o nerth i nerth, ac mae hi’n gyffrous i weld cymaint o lwybrau newydd yn codi ar gyfer y coleg yn fyd-eang.

“Mae’r daith E-chwaraeon i Barcelona a chyfnod myfyrwyr Trin Gwallt yn yr Eidal wedi rhoi dimensiwn newydd i’r rhaglenni technegol yma,” meddai Julie.

“Es i ag wyth o fyfyrwyr i Montecatini, ac fe gawson nhw brofiad anhygoel allan yna ar interniaeth, gan oresgyn unrhyw heriau o gwmpas yr iaith a’r ffordd maen nhw’n ymdrin â’r diwydiant, sy’n wahanol iawn i yma yn y DU.

“Roedd hi’n ddiddorol iawn a gwnaeth y profiad adeiladu eu hyder, gan roi synnwyr o annibyniaeth iddyn nhw a chyfle i ymdrochi yn niwylliant a ffordd o fyw y bobl sydd allan yno.”

Ychwanegodd Julie fod lleoliadau ychwanegol yn Ewrop a’r byd ehangach yn cynnwys 10 o ddysgwyr Gofal Plant yn ymweld â choleg gyda meithrinfa Montessori yn Ffrainc, a 15 o ddysgwyr o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cymryd rhan mewn prosiect Heriau Dramor yn Fietnam.

“Rydyn ni wedi mynd â myfyrwyr dramor yn y gorffennol ond mae cymaint o gyfleoedd erbyn hyn, mae’n bwynt gwerthu unigryw rhagorol ar gyfer darpar fyfyrwyr, cyfle i weld rhagor o’r byd wrth gynyddu sgiliau ac ennill mewnwelediad i ffyrdd amrywiol o weithio,” meddai hi.

“Mae galw mawr ar gael am bobl fedrus yn y maes trin gwallt a harddwch, estheteg, iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant, felly rŵan ydi’r amser i ymuno â ni.”

I ddarganfod rhagor ar yr ystod eang o gyrsiau a chymwysterau sydd ar gael yng Ngholeg Cambria, ewch i’r wefan: www.cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost