Gwnaeth y ferch deunaw oed a’i theulu symud i Gaer yn fuan cyn i’r wlad wynebu’r cyfnod clo yn 2020.
Oherwydd pandemig y Coronafeirws, roedd rhaid iddi gwblhau ei hastudiaethau TGAU ar-lein yn ogystal â dysgu Saesneg dros y we.
Erbyn hyn, ar ôl gwneud Safon Uwch yng Nghanolfan Chweched Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria yng Nghei Connah, mae Paulina ar fin dechrau gradd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Manceinion.
Mae hi wedi rhagori fel dysgwr EAL (Saesneg fel Iaith Ychwanegol) ac wedi llwyddo i gael A* mewn Seicoleg, A yn y Gyfraith a C mewn Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCH).
Ar ben hynny, mae Paulina sy’n dod o Burgas, wedi cwblhau Tystysgrif Bagloriaeth Cymru (Her Sgiliau) gan ennill gradd A.
“Daeth fy rhieni draw yma i weithio ond roedden nhw hefyd eisiau rhoi rhagor o gyfleoedd i mi,” meddai hi.
“Gwnaethom ni gyrraedd ychydig cyn i’r cyfnod clo ddechrau felly dim ond ychydig o amser oedd gen i yn yr ysgol uwchradd cyn i ddysgu o bell ddechrau, roedd rhaid i mi addysgu llawer iawn o bethau i fu hun.
“Gwnes i ddechrau gwella fy Saesneg yn wirioneddol pan wnes i gyrraedd Cambria – trwy fideos ar-lein y rhan fwyaf a sawl noson ddigwsg! – ac roedd ganddyn nhw cymaint o bynciau roedd gen i ddiddordeb mawr ynddyn nhw.”
Ychwanegodd Paulina: “Mae pawb yn y coleg wedi bod mor gefnogol, buaswn i byth wedi gallu gwneud hyn hebddyn nhw.
“Roeddwn i’n cael trafferth gyda fy ngraddau ond pan wnes i ddod yma gwnaeth fy hyder gynyddu a gwnaeth fy ngraddau wella.”
“Erbyn hyn dwi’n gobeithio mynd ymlaen a gweithio ym maes y gyfraith a hoffwn i ddiolch eto i’r holl staff yng Nglannau Dyfrdwy am fy helpu i gyrraedd yma – dwi mor hapus.”