Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Cambria University Centre Celebration at Northop

Mae staff y coleg ar gael i siarad ag unrhyw un sy’n poeni am eu graddau ac i drafod dewisiadau a chyfleoedd ar ei safleoedd yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llaneurgain a Llysfasi, lle mae ystod eang o gyrsiau a chymwysterau galwedigaethol ar gael.

Byddant ar gael hefyd i ateb cwestiynau am arholiadau ac unrhyw faterion eraill, yn ôl y Pennaeth Sue Price.

“Mae ein tîm yn barod yn brysur yn prosesu ceisiadau ac yn siarad â dysgwyr a’u teuluoedd cyn y flwyddyn academaidd nesaf,” meddai.

“Rydyn ni yma i unrhyw un sydd ag angen am gyngor am ein cyrsiau a chyfleoedd eraill yn Cambria, yn ogystal â gwybodaeth am gyrsiau Safon Uwch, prentisiaethau, neu raglenni dysgu yn y gwaith.

“Beth bynnag sydd ei angen arnoch chi, rhowch ganiad i ni. Mae gennym ni dîm anhygoel o staff cymorth a darlithwyr a fydd yn hapus i siarad gyda chi am y camau nesaf a’r ffordd orau ymlaen yn dilyn eich canlyniadau TGAU.

“Cysylltwch gyda ni i gael rhagor o wybodaeth.”

Bydd cyfleusterau sgwrs fyw ar gael hefyd, a gall dysgwyr a’u teuluoedd gael y wybodaeth a’r newyddion diweddaraf trwy wefan Cambria a’r cyfryngau cymdeithasol.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r wefan www.cambria.ac.uk neu ffoniwch 0300 30 30 007.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost