Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

FamilyFitness

Gan ganolbwyntio ar iechyd a llesiant, mae’r coleg – sydd wedi’i leoli yng Nglannau Dyfrdwy, Wrecsam, Llysfasi a Llaneurgain – wedi cynnal digwyddiadau i deuluoedd, myfyrwyr a staff yn ystod y flwyddyn academaidd.

Wedi’u trefnu trwy raglen boblogaidd Cambria Heini, cyflwynodd yr hyfforddwr aml-chwaraeon Christina Lace a’i chyd-weithwyr sesiynau Ffitrwydd i’r Teulu, gweithgareddau i’r Meddwl, y Corff a’r Enaid, a rhagor.

Dywedodd: “Fe wnaethon ni ddod â theuluoedd ynghyd ar gyfer tair sesiwn ffitrwydd anhygoel a oedd yn gadael pawb yn teimlo’n llawn egni ac yn unedig.

“Roedd y digwyddiadau’n llawn chwerthin, chwys a hwyl diddiwedd! Gwnaeth y rhieni a’r plant gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol, o ioga i rasys cyfnewid i focsio, gan ddangos eu gwaith tîm anhygoel a’u hagwedd benderfynol.

“Roedd yr amgylchedd yn llawn llawenydd, wrth i’r teuluoedd annog ei gilydd yn eu blaenau a dathlu eu cyflawniadau.

“Roedd y cyfan yn hyrwyddo ffordd iach o fyw, ond hefyd yn atgyfnerthu pwysigrwydd i deuluoedd dreulio amser gyda’i gilydd.

“Roedd yn galonogol gweld bondiau’n cryfhau a gwên ar wynebau pawb, ac yna pryd blasus am ddim a chyfle i eistedd gyda’r hyfforddwyr a sgwrsio am yr hwyl roedden nhw wedi ei gael.”

Gwnaeth Cambria Heini arwain sesiynau i’r Meddwl, y Corff a’r Enaid i dros 2,300 o ddysgwyr hefyd – dwbl y flwyddyn flaenorol – i gefnogi eu llesiant a’u hiechyd meddwl a chorfforol, lleihau straen a chreu meddylfryd cadarnhaol.

“Roedd y canlyniadau yn neilltuol, gyda myfyrwyr yn dweud bod eu lefelau egni, eu gallu i ganolbwyntio, a theimlad o lesiant cyffredinol i gyd yn well,” dywedodd Christina.

“Roedd yn hynod ysbrydoledig i weld y newid cadarnhaol roedd yn digwydd ym mywydau ein myfyrwyr.”

Yn y cyfamser, mae staff a myfyrwyr y coleg yn elwa o gyfarpar Technogym sydd newydd gael ei osod, gyda’r cyfleusterau yng Nglannau Dyfrdwy yn dod yn hwb o “egni cadarnhaol a chymhelliant”.

“Daeth unigolion ynghyd i gefnogi ac annog y naill a’r llall,” ychwanegodd Christina.

“Mae’r adborth wedi bod yn hynod gadarnhaol, mae myfyrwyr a staff wedi dweud fod defnyddio’r ystafell ffitrwydd wedi helpu eu hyder, gwella eu sgiliau cymdeithasol a’u helpu i gyflawni amcanion ffitrwydd – eto, rhywbeth hynod ysbrydoledig i’w weld.”

I gael rhagor o wybodaeth am Cambria Heini, ewch i www.cambria.ac.uk/category/active-cambria neu dilynwch @colegcambria ar y cyfryngau cymdeithasol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost