Background Splash

Gan hannah

CambriaIalGroup

Mae Coleg Cambria yn darparu amgylchedd cynnes, croesawgar i bobl o bob oed.

A dyna oedd yr achos pan aeth mwy na 60 o unigolion hŷn ac wedi ymddeol i sesiynau celf a chrefft ar safleoedd y coleg yn Wrecsam a Glannau Dyfrdwy dros yr haf.

Wedi’i drefnu gan dîm Llais Myfyrwyr Cambria, fe wnaethon nhw ddod o hyd i gyfranogwyr trwy gyfryngau cymdeithasol, boreau coffi lleol, hysbysfyrddau cymunedol, ar lafar a thrwy gydlynydd GIG yn cynnal ymweliadau cartref ar draws gogledd ddwyrain Cymru.

Fe wnaeth y grŵp ymuno â gwersi bywluniadau a gwneud printiau dros gyfres o wythnosau, yn ogystal â rhwydweithio a chymryd rhan mewn te prynhawn ym Mwyty Iâl ar safle Iâl.

Dywedodd Rob Jones, Swyddog Ymgysylltu Llais Myfyrwyr: “Roedd hwn yn gyfle i ni ddod â phobl at ei gilydd a ffurfio cymuned newydd.

“Roedd yn hyfryd gweld cymaint o bobl yn dod ac yn mwynhau eu hunain, yn enwedig ar ôl heriau’r cyfnod clo pan oedd cymaint yn teimlo’n unig ac wedi’u hynysu.

“Roedd yn rhoi cyfle iddyn nhw roi cynnig ar rywbeth newydd, ac roedd y canlyniadau’n anhygoel - roedd y gwaith celf a gafodd ei gynhyrchu yn wych.”

Ychwanegodd Rob: “Mae hyn yn rhywbeth y byddwn ni’n bwriadu ei ailadrodd yr haf nesaf a gobeithio ar adegau eraill yn ystod y flwyddyn gan ei fod mor boblogaidd.”

I gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk a dilynwch nhw ar gyfryngau cymdeithasol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost