Nod y tîm o Goleg Cambria, dan arweiniad Karl Jackson, yw codi dros £1000 ar gyfer y Menstrual Health Project drwy daclo’r ‘Cairngorm 4000s’ yn ddiweddarach fis yma.
Byddant yn herio’r tywydd mawr wrth deithio tridiau ar hyd mynyddoedd y rhanbarth sydd dros 4000 o droedfeddi, yn ucheldiroedd dwyreiniol yr Alban, a gwersylla yn y gwyllt.
Mae Karl, Pennaeth Cynorthwyol y Sefydliad Technoleg ac arweinydd safle Ffordd y Bers y coleg yn Wrecsam, yn gobeithio y bydd y cyhoedd yn cefnogi eu her ac yn helpu’r ymgyrch, a gafodd ei sefydlu gan ffrindiau Anna Cooper a Gabz Pearson.
“Rydyn ni’n falch iawn o gael ein cefnogi gan Grŵp Anwyl eto, wrth i ni wynebu antur anferth arall at achos anhygoel.
“Mae hon yn elusen annibynnol anhygoel sy’n cael effaith enfawr yn barod wrth gefnogi merched ledled y wlad, felly rydyn ni am godi cymaint ag y gallwn ni i’w helpu nhw i barhau â’r gwaith gwych hwnnw.”
Daw’r ymgyrch codi arian ddiweddaraf ychydig fisoedd ar ôl i 16 aelod o staff Ffordd y Bers herio Tri Chopa Cymru er budd Cerrig Camu Gogledd Cymru, gan ddringo’r Wyddfa, Cadair Idris a Phen y Fan mewn dim ond 22 awr.
Nod y Menstrual Health Project yw rhoi cymorth ymarferol i’r rhai sy’n dioddef o bryderon a chyflyrau iechyd mislif, gan ddarparu offer ac adnoddau addysgol.
Fe wnaeth Gabz ac Anna greu’r sefydliad ar ôl cael trafferth gydag endometriosis, a heb ddod o hyd i unman i droi ato am arweiniad a chefnogaeth.
“Mae endometriosis wedi cael effaith sylweddol ar ein bywydau ni ac mae’n eich gwneud chi’n wan iawn,” medden nhw.
“Mae’n frwydr barhaus o flinder, poen, yn straen emosiynol ac mae’n eich cyfyngu chi’n gymdeithasol.
“Fe benderfynon ni ei bod hi’n bryd defnyddio’r wybodaeth a’r profiad rydyn ni wedi’u casglu i greu rhywbeth cadarnhaol, gan sianelu ein hangerdd ni dros eirioli a chodi ymwybyddiaeth, nid dim ond am endometriosis ond holl bryderon a chyflyrau iechyd mislif.”
Dywedodd Emma Williams-Tully, Ymddiriedolwr Codi Arian ar gyfer Menstrual Health Project: “Rydyn ni mor ddiolchgar am ymdrechion codi arian anhygoel Karl a’i dîm ac am ymgymryd â her o’r fath i sicrhau y gall ein helusen ni gael arian hanfodol.
“Mae’r Menstrual Health Project mor ddiolchgar eu bod nhw wedi dewis ein cefnogi ni fel y gallwn ni helpu’r rhai sydd ei angen fwyaf trwy adnoddau addysgol fel pecynnau cymorth, sgyrsiau addysgol a gweithdai.
“Mae bod yn elusen newydd yn golygu bod pasio’r neges ar lafar yn hanfodol i ni er mwyn i ni allu tyfu a pharhau gyda’r holl waith rydyn ni’n ei wneud.
“Mae pobl fel Karl a’r tîm o Cambria mor garedig, meddylgar, ac empathetig i roi amser i wneud rhywbeth er budd pobl eraill.
“Diolch i chi eto am ein cefnogi ni, rydyn ni’n dymuno pob lwc iddyn nhw gyda’r her epig yma.”
I noddi’r tîm o Goleg Cambria, ewch i’r dudalen JustGiving: www.justgiving.com/crowdfunding/karl-jackson-1.
Ewch i www.menstrualhealthproject.org.uk i gael rhagor o newyddion a gwybodaeth gan Menstrual Health Project.