main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Worldskills 3

Fe wnaeth Coleg Cambria ennill tair medal arian ac un efydd yn rowndiau terfynol WorldSkills UK.

Y cyfranogwyr llwyddiannus oedd:

James Donohue – Cynnal a chadw awyrennau – Arian

Ben Gillin – LME – Gosodiadau Trydan – Arian

Brandon Nicholson – Fabdec – Weldio – Arian

Kosiah Sylvester – Brother Industries Ltd – Technegydd Cymorth TG – Efydd

Jimmy Smith – Kendley Ltd – Gwneuthurwr Metel – Canmoliaeth Uchel

Kieran O’Loan – Airbus – Cynnal a chadw awyrennau – Canmoliaeth Uchel

Aeth y coleg – sydd â safleoedd yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llysfasi a Llaneurgain – â grŵp o 15 o brentisiaid i’r digwyddiad, a gafodd ei gynnal dros dri diwrnod mewn colegau, darparwyr hyfforddiant annibynnol a phrifysgolion ar draws Manceinion Fwyaf, gan gynnwys Rochdale, Salford, Wigan a Leigh, ac Oldham.

Bu’r cyfranogwyr yn cystadlu mewn 51 o gategorïau sgiliau cyn i’r enillwyr gael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo fawreddog yn Neuadd Bridgewater ym Manceinion.

Fe wnaeth Rheolwr Profiadau Dysgwyr a Menter Cambria, Rona Griffiths, longyfarch y tîm, a dywedodd: “Waeth beth fo’ch canlyniadau, dim ond un cam ydi hwn tuag at lwyddiannau’r dyfodol yn eich gyrfaoedd dewisol, ac fel coleg, rydyn ni’n falch o fod wedi bod yn rhan o’ch taith chi hyd yn hyn.

“Adfyfyriwch ar y ffaith eich bod ymhlith y goreuon yn eich maes sgiliau, yn un o wyth cystadleuydd gorau’r DU, cyflawniad prin, rhyfeddol, a thrawiadol.

“Mae cystadlu mewn cystadlaethau sgiliau yn newid pob un ohonon ni, ac rydyn ni’n dysgu rhywbeth amdanon ni’n hunain: sut rydyn ni’n gweithio dan bwysau, beth rydyn ni’n gallu ei wneud, a sut gallwn ni wella yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys tiwtoriaid, beirniaid a threfnwyr.

“Gallwn ni i gyd ddysgu o’r profiad hwn a defnyddio hynny ar gyfer profion a heriau mewn bywyd a gyrfaoedd yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Ben Blackledge, Prif Weithredwr WorldSkills UK: “Mae hon yn foment sy’n newid bywydau’r bobl ifanc yma. Nhw ydi’r genhedlaeth newydd o raglenni uchel a fydd yn rhoi mantais gystadleuol i gyflogwyr y DU.

“Bydd sgiliau’n parhau i fod yn wahaniaethwr allweddol ar gyfer busnes gartref a thramor a thrwy ein rhaglenni rydyn ni’n gweithio i sicrhau y gall pob prentis a myfyriwr ar draws y DU gael mynediad i addysg dechnegol a phrentisiaethau o ansawdd uchel sy’n arwain at lwyddiant gwirioneddol iddyn nhw a’r DU gyfan.”

Ewch i www.worldskillsuk.org i gael rhagor o wybodaeth am WorldSkills UK.

I gael rhagor o newyddion a gywbodaeth gan Goleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost