Croesawodd Ysgol Fusnes Llaneurgain Coleg Cambria dros 60 o westeion i’w digwyddiad cynaliadwyedd blynyddol.
Yn eu plith roedd Seb Gudek o Aqualogik Ltd, Llandudno, Nikki Giles o Sir y Fflint, a Toni Godolphin, Swyddog Lleihau Carbon / Ymgysylltu â Chronfa Menter Antur Cymru, a fu’n trafod grantiau ar gyfer prosiectau amgylcheddol.
Hefyd yn bresennol roedd PRM Waste Systems, Cyngor Sir y Fflint, Haven Holidays, gwenynwyr lleol, Ecological Land Management, TACP Architects, a mwy.
Dywedodd Kate Munan, Rheolwr Dysgu yn y Gwaith Cambria: “Hoffwn ddiolch i bawb a fynychodd, roedd yn ddigwyddiad gwerthfawr oedd yn sôn am faterion byd-eang a chenedlaethol yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd.
“Cafwyd cyflwyniadau diddorol a chraff gyda negeseuon pwysig ar sut y gallwn ni i gyd wneud rhagor dros y byd o’n cwmpas, a sylw i’r hyn sydd angen ei wneud i wrthdroi’r tueddiadau presennol a gwarchod ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
“Fe gawsom ni adborth cadarnhaol iawn gan bawb a ddaeth felly byddwn yn defnyddio’r un fformat y flwyddyn nesaf ac yn parhau i dynnu sylw at y materion pwysig hyn.”
Yr hydref diwethaf, canolbwyntiodd y gynhadledd ar geidwaid glaslawr, grwpiau cadwraeth a chyflogwyr yn y sector garddwriaeth, i nodi Diwrnod Cynefin y Byd, gyda Ramblers Cymru, Clwb Golff Nefyn a Golff Cymru ymhlith y sefydliadau oedd yn rhoi cyflwyniadau.
Am y newyddion a’r wybodaeth diweddaraf gan Goleg Cambria, ewch i’r wefan: www.cambria.ac.uk.