Cadwch Eich Lle yn Ein
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion

P’un a ydych chi eisiau dysgu rhywbeth newydd neu wella eich sgiliau, mae ein digwyddiadau’n ffordd berffaith o ddarganfod rhagor am ddysgu yn Cambria.

Ein Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion yw eich cyfle i archwilio ein hystod eang o gyrsiau, cyfarfod ein tiwtoriaid arbenigol, siarad â staff, cael gwybodaeth a chyngor am gyllid a gwneud cais am gwrs.

Rhesymau dros Ddod:

Dysgu rhagor am ein cyrsiau rhan-amser

Anelu am ddyfodol mwy disglair trwy astudio gradd gyda Chanolfan Brifysgol Cambria

Eisiau gwella eich sgiliau i symud ymlaen yn eich gyrfa gyda chwrs datblygiad proffesiynol

Eisiau dod o hyd i gyrsiau hamdden i ddarganfod sgiliau newydd a dysgu rhywbeth newydd

Angen cyngor ar Brentisiaethau

Eisiau dysgu Cymraeg gyda Chymraeg i Oedolion

Diddordeb yn ein cyrsiau Sgiliau i Oedolion am ddim* gan gynnwys Saesneg, Mathemateg, TG a Sgiliau Cyflogadwyedd

Neu eisiau dysgu rhagor am ein cyrsiau am ddim* wedi eu hariannu gyda Chyfrif Dysgu Personol.

*os ydych yn gymwys

Cadwch eich lle rŵan!

Cadwch eich lle yn y digwyddiad agored mae gennych chi ddiddordeb ynddo wrth ddewis y lleoliad(au) isod.

Glannau Dyfrdwy

Dydd Mercher 5 Mehefin 5 - 7pm

 

I ddod i'r Digwyddiad Agored i Oedolion, cliciwch ar y botwm isod

Iâl

Dydd Iau 6 Mehefin 5 - 7pm

I ddod i'r Digwyddiad Agored i Oedolion, cliciwch ar y botwm isod

Ffordd y Bers

Dydd Iau 6 Mehefin 5  - 7pm

I ddod i'r Digwyddiad Agored i Oedolion, cliciwch ar y botwm isod

Siaradwch â'r tîm

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

0300 30 30 007

Anfonwch E-bost atom ni

Anfonwch e-bost atom ni

gwasanaethaudysgwyr@cambria.ac.uk

Ynglŷn â’n Coleg

Cawsom ein sefydlu yn ôl yn 2014, ac ers hynny rydym wedi sefydlu ein hunain yn gyflym fel darparwr addysg blaenllaw yn y DU. Ni yw un o’r colegau mwyaf yn y DU, gyda thua 6,000 o fyfyrwyr llawn amser, 20,000 o ddysgwyr rhan-amser a llawer o gysylltiadau rhyngwladol.

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau llawn amser a rhan-amser gan gynnwys Safon Uwch, TGAU, BTEC, Cymraeg i Oedolion, ac Addysg Uwch ar draws ein chwe safle. Mae’r coleg hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â dros 1000 o gyflogwyr yn lleol ac yn genedlaethol i’ch helpu i gael cyfleoedd prentisiaeth a hyfforddeiaeth.

Play Video
Ein Gweledigaeth

Ein gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol yw ‘rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth.’

Ein blaenoriaeth gyffredinol yw parhau i ddarparu addysgu a dysgu rhagorol, er mwyn ymestyn, herio ac ysbrydoli pob dysgwr i archwilio a chyflawni i’w lawn botensial. Mae hyn yn hanfodol wrth i rôl Cambria ddod yn fwyfwy pwysig i’n cymunedau a’n heconomi.

Ein Gwerthoedd

Dangos gonestrwydd ac uniondeb

Cael eich parchu a'ch gwerthfawrogi

Bod yn garedig a chefnogol

Gweithio gydag eraill

Teimlo'n gyfartal a chynhwysol

Bod yn gymuned

Bod yn rhagorol ac ysbrydoledig

Annog ac ysgogi

Bod yn frwdfrydig

Bod yn arloesol