Sgiliau Cyfweliad a CV Siop Swyddi
Sgiliau Cyfweliad a CV Siop Swyddi
Sgiliau Cyfweliad
Paratoi
Meddyliwch am:
- Pam ydych chi eisiau gwneud y swydd
- Pa gwestiynau sydd gennych chi am y swydd/cwmni
- Beth ydy eich cryfderau a gwendidau
- Enghreifftiau bywyd go iawn gallwch chi siarad amdanyn nhw
Beth i’w wisgo
- Cynlluniwch beth rydych chi am ei wisgo’r diwrnod cyn eich cyfweliad
Darganfyddwch god gwisgo’r cwmni a gwisgwch ddillad i gyd-fynd â hyn
Peidiwch â gwisgo esgidiau/dillad anghyfforddus na gormod o bersawr
Ar y diwrnod
- Cynlluniwch i gyrraedd yn gynharach na’ch amser cyfweliad fel nad ydych chi’n hwyr
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n diffodd eich ffôn
- Ceisiwch ymlacio – anadlwch yn ddwfn a chofiwch sipian o ddŵr
Yn ystod y cyfweliad
- Cymerwch eich amser yn ateb y cwestiynau
- Siaradwch yn glir a pheidiwch â rhegi
- Rhowch enghreifftiau
- Byddwch yn gadarnhaol
- Atebwch yn onest
Ar ôl y cyfweliad
- Os maen nhw’n cynnig y swydd i chi, cofiwch ddiolch iddyn nhw
- Os nad ydych chi’n cael y swydd, gofynnwch am adborth
Sgiliau/Fformatio CV
Gwybodaeth Bersonol
Enw a Manylion Cyswllt
Cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn.
Proffil Personol
4-5 llinell yn crynhoi eich hun: personoliaeth, galluoedd, cymeriad a chryfderau – gwybodaeth sy’n sefyll allan sy’n berthnasol i’r mathau o swyddi rydych chi’n gwneud cais amdanyn nhw.
Sgiliau Craidd
Pwyntiau bwled o’r sgiliau gan grybwyll yn fyr pam rydych chi’n meddwl bod gennych chi’r sgiliau yma.
Addysg a Chymwysterau
Rhestr gyda’r coleg/ysgol gyntaf diweddaraf, cwrs ac unedau/cymwysterau, dyddiadau a graddau.
Cyflogaeth/Profiad Gwaith
Y mwyaf diweddar yn gyntaf- enw’r sefydliad, dyddiadau, swydd a chyfrifoldebau. Cofiwch sôn am unrhyw waith gwirfoddol.
Diddordebau/Gwybodaeth Ychwanegol
Unrhyw ddiddordebau sydd wedi datblygu eich sgiliau, prosiectau rydych chi wedi’u gwneud yn yr ysgol/coleg neu gartref. Cyflawniadau fel Gwobr Dug Caeredin, trwydded yrru, ac ati.
Hyd
1-2 dudalen – bydd recriwtwyr prysur yn edrych ar y CV, mae angen iddo ddal eu sylw ar unwaith.
Fformat
Defnyddiwch gynllun a ffont syml a chlir i’w gwneud hi’n hawdd i gyflogwyr ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw.
Beth mae cyflogwyr yn chwilio amdano mewn CV?
Bydd cyflogwyr yn edrych ar eich sgiliau a’ch profiad/cymwysterau i weld pa mor addas y gallech chi fod i wneud y swydd a ffitio i mewn i’w sefydliad.