Gwasanaeth Archebu Cyngor Gyrfaoedd

Ydych chi neu eich person ifanc yn ystyried ymuno â chwrs llawn amser yng Ngholeg Cambria, ond yn ansicr o ba gwrs i wneud cais amdano? Neu sut i wneud cais? Os ydych chi eisiau gwybod rhagor am ein cyrsiau llawn amser, trefnwch apwyntiad gydag un o’n Hymgynghorwyr Gyrfaoedd cymwys.

Trefnwch apwyntiad gyda Chris ar gyfer cyrsiau ar ein safleoedd Glannau Dyfrdwy a Llaneurgain ac Alex ar gyfer cyrsiau ar ein safleoedd Iâl, Ffordd y Bers a Llysfasi.

Gyda Beth Allwn Ni Helpu?

Deall y gwahanol fathau o gymwysterau rydym yn eu cynnig / Cymharu llwybrau UG a galwedigaethol a sut allan nhw eich helpu chi i gyflawni eich nod.

Pa lefel cwrs i ddechrau arni a’r gofynion mynediad sydd eu hangen.

Llwybrau dilyniant gwahanol yng Ngholeg Cambria.

Cyrsiau posib i’w hystyried ar sail eich swydd neu yrfa benodol sydd gennych chi mewn golwg.

Glannau Dyfrdwy a Llaneurgain

Student Services and Careers Advisor Christopher Fazey speaking with a student

Iâl, Ffordd y Bers a Llysfasi

Student Services and Careers Advisor Alex Fryer speaking with a student