Mae dyfodiad peiriannau ag offer newydd ar safle Llysfasi Coleg Cambria yn cyd-fynd â chynnydd yn nifer y dysgwyr. Mae nifer y dysgwyr sydd wedi cofrestru wedi cynyddu dros 80% y flwyddyn academaidd hon.
Mae’r datblygiadau hyn yn dod wrth i waith barhau ar brosiect ailddatblygu gwerth £10 miliwn ar y safle yn Sir Ddinbych sy’n cynnwys canolfan addysg garbon niwtral o’r radd flaenaf. Bydd yr adeilad 1095 metr sgwâr yn agor ym mis Medi ac yn cynnwys ystafelloedd dosbarth a mannau cyfarfod, siop goffi, canolfan AU, hwb llesiant a rhagor.
Prynodd y coleg gwerth dros £80,000 o beiriannau gyda chyfraniad ariannol gan gynllun cyfalaf Effeithlonrwydd Grantiau Bach Llywodraeth Cymru. Nod y cynllun yw cynyddu buddsoddiad ar y fferm, datblygu perfformiad technegol a gwella’r defnydd o ddatblygiadau newydd mewn amaethyddiaeth. Aeth y Coleg ati i fuddsoddi’r arian mewn technoleg newydd gan gynnwys peiriant awtomatig i fwydo lloi, peiriant awtomatig sy’n pwyso gwartheg, a system awtomatig ar gyfer trin a drensio defaid.
Dywedodd Elin Roberts, Pennaeth Llysfasi, bod y gyfres hon o welliannau a’r pwyslais ar ansawdd rhaglenni academaidd amaethyddol wedi arwain at ymdeimlad o bositifrwydd ymhlith dysgwyr a staff.
“Mae ein cyrsiau mewn Amaethyddiaeth, Peirianneg Amaethyddol a Choedwigaeth a Rheoli Cefn Gwlad wedi bod yn llwyddiannus iawn gyda chynnydd o 80% mewn niferoedd myfyrwyr eleni,” meddai.
“Mae’r dechnoleg wedi ein helpu i ymateb i’r galw ychwanegol ac mae’n cyd-fynd â’r holl fentrau sero net sydd wedi dechrau yma yn y blynyddoedd diwethaf fel y biofactory, sy’n cynorthwyo ffermwyr wrth iddynt geisio lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.”
Dywedodd Cyfarwyddwr y Cwricwlwm, Joe Mault, bod safle’r coleg o ran arloesi ym maes ffermio sero net yn fanteisiol i’r gymuned ffermio a dysgwyr wrth i’r diwydiant ddod yn fwy cynaliadwy.
Mae cyn-ymgynghorydd yr NFU a chyn gapten Clwb Rygbi Rhuthun o Fryneglwys yn mwynhau’r swydd ac yn dweud ei fod wedi ymuno ar amser cyffrous wrth i’r coleg arwain y ffordd ym myd amaethyddiaeth fanwl yng Nghymru.
“Mae’r systemau awtomatig ac electronig newydd hyn yn hanfodol i’r sector ac yn golygu ein bod yn gallu monitro anifeiliaid yn agosach fyth. Bydd yn golygu y byddwn ni’n arbed arian yn y pen draw wrth i ni dargedu agweddau penodol a gweithio’n fanylach yn hytrach na chymryd agwedd gyffredinol at bethau fel drensio,” ychwanegodd.
“Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i ffermwyr yn y dyfodol ac mae’n rhoi profiadau cyfredol i fyfyrwyr yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf a fydd yn chwarae rhan bwysig mewn cyrraedd targedau sero net, yma ac yn genedlaethol.”
Ewch i www.cambria.ac.uk am ragor o newyddion a gwybodaeth o Goleg Cambria Llysfasi.