Eisoes yn croesawu dros 50 o bobl yn ei gyfarfod wythnosol am ddim yn yr Hwb ‘Yellow and Blue’ yn Wrecsam, mae Andy’s Man Club (AMC) wedi ychwanegu Coleg Cambria Glannau Dyfrdwy at ei restr gynyddol o safleoedd ledled y Deyrnas Unedig.
Mae’r sefydliad wedi arwyddo memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda’r coleg. Felly bydd yn cyfarfod yng nghanolfan gynadledda’r coleg ar Ffordd Celstryn, Cei Connah bob dydd Llun rhwng 7pm a 9pm, gan ddechrau ar 22 Ebrill.
Mae Dan Rowe, Arweinydd Ardal Ranbarthol AMC ar gyfer Gorllewin Lloegr a Chymru, yn dweud bydd y bartneriaeth yn eu galluogi i gyrraedd rhagor o ddynion sy’n cael trafferth gyda myrdd o broblemau – stormydd yn effeithio ar eu bywydau – gan gynnwys gorbryder, iselder, colled ac unigrwydd, yn Sir y Fflint a thu hwnt.
Yn hanu o Fynydd Isa, mae’n gobeithio gweld yr elusen yn tyfu hyd yn oed yn gryfach yn y misoedd i ddod, ar ôl ennill Gwobr Dathlu Dewrder S4C ym mis Rhagfyr am helpu i chwalu rhwystrau a chael gwared ar y stigma sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl.
“Rydyn ni wedi bod yn Wrecsam ers dwy flynedd ac mae’r niferoedd sy’n dod wedi bod yn cynyddu o wythnos i wythnos. Felly mae gallu helpu rhagor o ddynion yn ardal Glannau Dyfrdwy yn wych,” meddai Dan.
“Mae gan Andy’s Man Club dros 180 o grwpiau yn genedlaethol, sy’n cefnogi dros 4,500 o ddynion. Ond eto dim ond un man cyfarfod oedd gennym ni yng Ngogledd Cymru hyd yma, felly dyma gam yn y cyfeiriad iawn.
“Rydyn ni’n ddiolchgar i Goleg Cambria am adael i ni ddefnyddio eu cyfleusterau, am eu haelioni, ac am gefnogi ein gweledigaeth i gael Andy’s Man Club ym mhob tref a dinas yn y Deyrnas Unedig. Mae’r rhain yn llefydd i feithrin cyfeillgarwch, ac i griwiau o ddynion o wahanol oedran, ac o gefndiroedd gwahanol, ddod at ei gilydd mewn amgylchedd cynnes, croesawgar.
“Rydyn ni eisiau parhau â’r sgwrs, er mwyn i ddynion gael siarad mewn man diogel lle maen nhw’n teimlo’n gyfforddus i rannu eu profiadau, mewn ystafell sy’n rhydd o farn.”
Mae’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn dweud: “Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth i gryfhau cysylltiadau â’r gymuned leol; yn enwedig ar brosiectau sy’n cefnogi ein trigolion a’n dysgwyr yn uniongyrchol – y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.
“Rydyn ni mewn sefyllfa i gefnogi Andy’s Man Club yn eu hymgyrch i gynnig grwpiau cymorth cymheiriaid am ddim ledled y Deyrnas Unedig.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr Cambria Yana Williams: “Fel coleg, mae gennym gyfrifoldeb nid yn unig i’n dysgwyr ond i’w teuluoedd, ffrindiau a’n cymunedau yng ngogledd ddwyrain Cymru.
“Rydyn ni’n falch o allu helpu mewn rhyw ffordd fach ac yn gobeithio y bydd unrhyw un sy’n profi problemau iechyd meddwl yn cysylltu ag Andy’s Man Club, yn mynd i gyfarfod ac yn croesawu’r gwaith anhygoel maen nhw’n ei wneud i sicrhau newid cadarnhaol i ddynion ledled y wlad, un sgwrs ar y tro.”
Bob dwy awr mae un dyn yn lladd ei hun yn y Deyrnas Unedig ar gyfartaledd. Dywedir yn aml mai un ffactor o hynny yw nad ydy dynion yn siarad. Dyna pam cafodd Andy’s Man Club ei ddechrau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Andy’s Man Club | #ITSOKAYTOTALK | Andy’s Man Club (andysmanclub.co.uk) a dilynwch grŵp Glannau Dyfrdwy ar Facebook.
I gael y wybodaeth a’r newyddion diweddaraf gan Goleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk.