main logo
Background Splash

Gan Alex Stockton

Coleg Cambria Deeside

Bydd sesiynau’n cael eu cynnal ar y safleoedd canlynol fis nesaf:

Glannau Dyfrdwy: Dydd Mercher 5 Mehefin – 5pm-7pm

Iâl, Wrecsam: Dydd Iau 6 Mehefin – 5pm-7pm

Ffordd y Bers: Wrecsam – Dydd Iau 6 Mehefin – 5pm-7pm

Mae’r coleg wedi cynnal llu o weithgareddau eleni – sydd â safleoedd yn Llaneurgain a Llysfasi hefyd. Aeth llawer o bobl i’r digwyddiadau, gan gynnwys pobl a oedd yn gobeithio ail-addysgu a dysgu sgiliau newydd, neu’r rhai oedd yn cynllunio newid gyrfa, rhai oedd eisiau hobi newydd, neu eisiau datblygu yn eu swydd bresennol.

Dywedodd y Pennaeth, Sue Price: “Mae ein digwyddiadau agored arferol yn llwyfan wych i oedolion o bob oed yn y Gogledd Ddwyrain ac ardaloedd eraill i archwilio cyfleoedd newydd ar gyfer twf personol a phroffesiynol.

“Mae yna ddewis eang o gyrsiau rhan-amser a rhaglenni ar gael, sy’n berffaith ar gyfer unrhyw un sydd eisiau troi hobi yn fenter fasnachol – yn enwedig ar ôl Covid, o gyrsiau Cymraeg i Oedolion i raddau AU (Addysg Uwch) a BTEC.”

Ychwanegodd Mrs Price: “Mae llawer o’r cyrsiau yma wedi’i hariannu’n llawn, yn hyblyg ac yn apelio at lawer o ddiwydiannau felly mae yna rywbeth at ddant pawb ac mi fydd ein staff ni ar gael i siarad am ffactorau eraill, gan gynnwys cofrestru a chyllid.”

Yn ôl adroddiad gan Lywodraeth Cymru roedd cyfradd llwyddo cyrsiau dysgu i oedolion yn 84% yn 2022/23, sy’n gynnydd o 3% ers y flwyddyn flaenorol.

Roedd cynnydd o 45% yn y nifer o weithgareddau dysgu y gellir eu hasesu a gafodd eu cyflwyno’n uniongyrchol gan awdurdodau lleol yn 2022/23 o’i gymharu â 2021/22, ac Addysg a Hyfforddiant, Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill a Gwyddoniaeth a Mathemateg oedd gyda’r cynnydd mwyaf mewn cyfraddau llwyddo yn 2022/23 o’i gymharu â 2021/22.

“Mae’r nifer o oedolion sy’n dychwelyd i addysg wedi cynyddu, hyd yn oed yn rhan-amser,” meddai Mrs Price.

“Mae llawer o bobl yn chwilio am opsiynau sy’n ffitio o amgylch eu gyrfa, teulu, a bywydau bob dydd, p’un ai fod hynny’n dysgu o bell, cyrsiau nos neu ddarpariaeth yn eu cymuned.

“Mae Coleg Cambria yn benderfynol o ddarparu cymaint o gyfleoedd â phosib i’r rhai sydd eisiau cymryd y camau nesaf yn eu haddysg. Bydd digwyddiadau agored yn dangos y ffordd iawn i’r rhai sydd â diddordeb mewn cyrsiau nos a phrentisiaethau a allai ffurfio pennod gyffrous nesaf yn eu bywydau neu yrfaoedd.”

I gael rhagor o wybodaeth ac i gadw eich lle, dilynwch sianeli cyfryngau cymdeithasol Coleg Cambria ac ewch i’r wefan: www.cambria.ac.uk/ymgyrchoedd/digwyddiadau-agored-addysg-i-oedolion.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost