Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

HarryAshfieldNEW

Mae’r myfyriwr Coleg Cambria a chwaraewr canol cae dan 18 – sydd wedi chwarae’n llawn i’r tîm am y tro cyntaf ym mis Hydref – wedi ennill tlws Chwaraewr y Tymor 2023/24 Academi Bob Clark wrth iddo wneud argraff arbennig a bod yn gapten sawl gwaith.

Cafodd y tîm ei guro o drwch blewyn ar gyfer teitl Cynghrair Ieuenctid EFL Gogledd-Orllewin gan Preston, ond wrth edrych yn ôl ar “flwyddyn anhygoel”, roedd Harry wrth ei fodd gyda’i gynnydd.

“Roedd cael chwarae i’r tîm cyntaf a chyfrannu at lwyddiant y tîm dan 18 – er ein bod ni wedi colli allan ar y teitl – yn werth chweil i mi,” meddai Harry sy’n 17 oed, sy’n dod o’r ddinas ac wedi bod gyda’r Dreigiau Coch ers iddo fod yn 6 oed.

“Dwi wedi cael blas o chwarae o flaen ein cefnogwyr bendigedig ni yng Nghae Ras STōK, felly fy uchelgais rŵan ydy parhau i weithio a hyfforddi’n galed i mi allu profi hynny dro ar ôl tro.

“Mae ennill Gwobr Chwaraewr Academi y Tymor yn fraint enfawr hefyd felly diolch i bawb sydd wedi rhoi gymaint o gefnogaeth i mi yn ystod y tymor yma, yn arbennig fy nheulu, ffrindiau a phawb yn y clwb.”

Gwnaeth Harry ymddangos yn sgwad Phil Parkinson am y tro cyntaf ym mis Hydref y llynedd gyda buddugoliaeth 0-3 yn Nhlws EFL yn erbyn Crewe Alexandra yn Stadiwm Mornflake.

Mae Harry’n ddysgwr Lefel 3 mewn Chwaraeon ar safle Iâl Cambria ac yn gyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Darland, ac mae’n gobeithio cael bod yn rhan o’r tîm yn rheolaidd ar ôl cael blas o fywyd sêr y stadiwm, gan fod y clwb yn amlwg yn fyd eang oherwydd ei berchnogion o Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney.

“Dwi wedi bod yn hyfforddi gyda’r tîm cyntaf dros y blynyddoedd diwethaf, sydd wedi bod yn hollol anhygoel yn sgil popeth sydd wedi digwydd ar y cae ac oddi arno – mae wedi bod yn rhyfeddol,” ychwanegodd.

“Dwi’n gorffen coleg yr haf yma a dwi’n gobeithio mi fydda i’n canolbwyntio’n llawn ar bêl-droed fel gyrfa.”

Gwnaeth Sally Jones, Cyfarwyddwr Cwricwlwm Chwaraeon, Gwasanaethau Cyhoeddus a Busnes yn Iâl llongyfarch Harry ar ei wobr.

“Mae Harry wedi dod yn ei flaen yn arbennig y tymor yma, gan chwarae i’r tîm cyntaf ac erbyn hyn ennill gwobr Chwaraewr Academi y Flwyddyn – rydyn ni’n dymuno pob llwyddiant iddo yn y dyfodol.”

I gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost