main logo
Background Splash

Gan hannah

Wales-FSFSTP-Trainees

Mae Coedwigaeth Tilhill a Foresight Sustainable Forestry Company (FSF) yn falch o gyhoeddi bod y Rhaglen Hyfforddiant Sgiliau Coedwigaeth Gynaliadwy Foresight yn parhau yng Nghymru, gyda’r nod o baratoi contractwyr yn y rhanbarth yn well.

Ar ôl rhaglen lwyddiannus y llynedd, mae Coedwigaeth Tilhill, sef prif gwmni cynaeafu coed a choedwigaeth y DU – ac aelod o BSW Group, ac FSF, sef cwmni buddsoddi cyfalaf naturiol rhestredig cyntaf y DU, wedi ymuno eto i addysgu’r diwydiant ymhellach.

Cafodd y rhaglen ei lansio am y tro cyntaf yn 2022, ac mae wedi parhau i lwyddo, gyda 70 o ymgeiswyr yn gwneud cais y llynedd, a’r rhan fwyaf o hyfforddeion yn cwblhau’r cwrs, gan barhau i weithio yn y diwydiant coedwigaeth.

Eleni, mewn partneriaeth â Choleg Cambria Llysfasi, bydd pedwar lleoliad rhaglen hyfforddi yn cael eu dyfarnu ledled Cymru. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus o gymunedau sy’n lleol i weithrediadau FSF yn cael cyrsiau hyfforddi wedi’u hariannu’n llawn, a fydd yn cynnwys gweithgareddau yn ymwneud â choedwigaeth.

Cynhelir sesiynau hyfforddi yng Nghymru sy’n para tair wythnos, yn ystod mis Awst, Medi, Hydref a Thachwedd. Mae maes llafur y rhaglen yn cynnig gyrru tractor, sgiliau llif gadwyn, hyfforddiant cymorth cyntaf a llawer mwy, gan roi’r sylfaen a’r sgiliau allweddol i’r rhai sy’n cymryd rhan er mwyn adeiladu gyrfa yn y diwydiant coedwigaeth.

Dros y 75 mlynedd diwethaf, mae Coedwigaeth Tilhill wedi plannu dros 1 biliwn o goed ac, fel cwmni preifat, mae ganddo’r nifer fwyaf o reolwyr coedwigoedd sydd â chymwysterau proffesiynol, sy’n arbenigo mewn creu a rheoli coetiroedd, a phrynu a chynaeafu coed.

Dywedodd David Edwards, Cyfarwyddwr Coedwigaeth Tilhill:

“Rydym yn falch ein bod yn gallu cynnig cyfle i fwy o hyfforddeion gael gwybodaeth werthfawr ac ymarferol am goedwigaeth yng Nghymru, fel rhan o Raglen Hyfforddiant Sgiliau Coedwigaeth Gynaliadwy Foresight, sy’n cael ei hariannu’n llawn.

“Nid oes angen unrhyw hyfforddiant na phrofiad blaenorol i wneud cais ar gyfer y rhaglen. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr yng Nghymru sy’n awyddus i ddysgu sgiliau newydd.

“Mae’r cyfle hwn yn ddelfrydol ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes amaethyddiaeth neu mewn swyddi fel contractwyr, yn ogystal â’r rhai sy’n awyddus i ddechrau gyrfa yn y sector coedwigaeth yn y gymuned leol.”

Caiff mentor o Goedwigaeth Tilhill ei neilltuo i ymgeiswyr llwyddiannus i roi cyngor ar ddatblygu eu gyrfa ym maes coedwigaeth. Ar ôl cwblhau’r cwrs, bydd yr ymgeiswyr yn cael cyfle i wneud cais am unrhyw swydd wag sydd ar gael gyda Choedwigaeth Tilhill, neu swyddi gwag ehangach gyda BSW Group a gweithio ar brosiectau FSF.

Mae FSF yn buddsoddi mewn cynlluniau coedwigaeth a choedwigo yn y DU gyda ffocws allweddol ar gynyddu cyflenwad coed cynaliadwy’r DU. Mae ei agwedd at goedwigaeth gynaliadwy yn cyd-fynd yn agos â phump o Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, sy’n cynnwys gwarchod yr amgylchedd naturiol, gwella lefelau bioamrywiaeth, gwneud cyfraniad cadarnhaol at ddal a storio carbon, a chefnogi cymunedau gwledig. Mae cynlluniau coedwigaeth FSF yng Nghymru yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ar yr un pryd â lliniaru colli bioamrywiaeth.

Dywedodd Richard Kelly, Cyd-arweinydd Foresight Sustainable Forestry Company plc:

“Mae FSF ar y trywydd iawn i fod wedi plannu ei bortffolio coedwigaeth 5,379 hectar cyfan erbyn gwanwyn 2025. I roi hyn yn ei gyd-destun, ar ôl ei gwblhau, mae hyn yn cyfateb i draean o gyfanswm yr arwynebedd y mae’r DU gyfan wedi’i blannu yn y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2023. O ystyried maint gwaith parhaus FSF i greu coetiroedd, mae’n hanfodol bod gennym y gweithwyr sydd â’r sgiliau sydd eu hangen i helpu i siapio’r degawd nesaf o goedwigaeth gynaliadwy. Rhaid grymuso cymunedau gwledig i gymryd rhan yn economi cyfalaf naturiol gynyddol y DU ac rydym yn falch o weld y rhaglen sgiliau hanfodol hon yn rhedeg am y drydedd flwyddyn yn olynol yng Nghymru.

“Bydd coedwigo yn elfen allweddol o frwydr y DU yn erbyn newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Bydd rhoi cymunedau lleol Cymru ar y blaen o ran manteisio ar y cyfleoedd gyrfa a gynigir gan y diwydiant ffyniannus hwn a’u galluogi i siapio ei esblygiad yn cefnogi proses bontio gyfiawn a dyfodol mwy cynaliadwy i bawb.”

Gwnewch gais nawr drwy wefan Coedwigoedd Tilhill. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 31 Gorffennaf.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost