main logo
A student services team member speaking with a student in Yale pointing at a full time brochure
Dewch i Adnabod Eich Tîm Cymorth

Wrth i chi ddechrau ar eich taith yng Ngholeg Cambria, mae’n bwysig i chi wybod nad ydych chi ar eich pen eich hun.

Yn yr adran hon, byddwch chi’n cael cyflwyniad i’r staff cymorth allweddol sydd wedi ymrwymo i’ch helpu chi i lwyddo yn academaidd ac yn bersonol. O ymgynghorwyr academaidd i weithwyr proffesiynol gwasanaethau myfyrwyr, mae gan bob aelod o’r tîm gyfoeth o wybodaeth ac ysbryd cefnogol i’n cymuned.

Dewch yn gyfarwydd â’r wynebau y tu ôl i’n gwasanaethau cymorth – dysgwch am eu swyddi, eu profiadau, a sut y gallan nhw a’u tîm eich helpu trwy gydol eich profiad coleg. Rydyn ni i gyd yma i’ch helpu chi i ffynnu!

Bethan Charles
Bethan Charles

Pennaeth Gwasanaethau Dysgwyr

Lizzie Stevens
Lizzie Stevens

Pennaeth Cynhwysiant

Emma Stedman
Emma Stedman

Rheolwr Llyfrgell a Sgiliau Academaidd

Bethan Charles

Head of Learner Services

At Coleg Cambria, Learner Services supports you from start to finish.

From career guidance and college transport to lunch clubs, Duke of Edinburgh, and more, we’re here to enrich your college experience and help you overcome any barriers.

We also offer enterprise support, nursery assistance, and opportunities to share your opinions through Learner Voice.

We’re located near Reception at every site, so make sure you pop in and see what we are all about.

Lizzie Stevens

Head Of Inclusion

All of us at Coleg Cambria are passionate about inclusion and celerating diversity.

I am proud of the support that The Inclusion Team can provide across the key areas of Additional Learning Needs (ALN), Learning and Specialist Support, Mental health and Wellbeing and Equality and Diversity.

I look forward to seeing you thrive here in college and succeeding on your learning journey.

a graphic of Lizzie Stevens, head of inclusion

Emma Stedman

Library & Academic Skills Manager

We’re looking forward to welcoming you to Coleg Cambria.

Our libraries are safe and inclusive spaces for you to work in and each site has a friendly team of people who can help you with a whole range of topics.

Whether you need to reset your password or need help with printing and finding information for your coursework there will be people available to support you.

We can also help with skills that prepare you to make the most of your study time. Call in and meet your library teams soon!

a graphic of Emma Stedman, the library & academic skills manager

Bethan Charles

Pennaeth y Gwasanaethau Dysgwyr

Yng Ngholeg Cambria, mae Gwasanaethau Dysgwyr yn eich cefnogi chi o’r dechrau i’r diwedd.

O arweiniad gyrfaoedd a chludiant coleg i glybiau amser cinio, Dug Caeredin, a rhagor, rydyn ni yma i gyfoethogi eich profiad yn y coleg a’ch helpu chi i oresgyn unrhyw rwystrau.

Rydyn ni hefyd yn cynnig cymorth menter, cymorth meithrinfa, a chyfleoedd i rannu eich barn trwy Lais y Dysgwyr. Rydyn ni wedi’n lleoli wrth y Dderbynfa ar bob safle, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn galw heibio i weld popeth sydd gennym ni i’w gynnig.

Lizzie Stevens

Pennaeth Cynhwysiant

Mae pawb yng Ngholeg Cambria yn angerddol am gynhwysiant a dathlu amrywiaeth.

Dwi’n falch o’r cymorth y gall y Tîm Cynhwysiant ei ddarparu ar draws prif feysydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), Cymorth Dysgu ac Arbenigol, Iechyd Meddwl a Llesiant a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Dwi’n edrych ymlaen at eich gweld chi’n ffynnu yma yn y coleg ac yn llwyddo ar eich taith ddysgu.

a graphic of Lizzie Stevens, head of inclusion

Emma Stedman

Rheolwr Llyfrgell a Sgiliau Academaidd

Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu chi i Goleg Cambria.

Mae ein llyfrgelloedd yn fannau diogel a chynhwysol i chi weithio ynddyn nhw ac mae gan bob safle dîm cyfeillgar o bobl a allai eich helpu chi gydag ystod o bynciau.

P’un a ydych chi angen ail-osod eich cyfrinair neu angen cymorth gydag argraffu a dod o hyd i wybodaeth ar gyfer eich gwaith cwrs, bydd pobl ar gael i’ch cynorthwyo chi.

Hefyd gallwn ni helpu gyda sgiliau a fydd yn eich paratoi chi i wneud y gorau o’ch amser astudio. Galwch heibio ac ewch i gyfarfod eich timau llyfrgell yn fuan!

a graphic of Emma Stedman,