Background Splash

Gan Alex Stockton

Daniel Mayers Jones

Bydd cyn gôl-geidwad Academi Ieuenctid Manceinion Unedig – a chwaraeodd ochr yn ochr â seren Lloegr Kobbie Mainoo – yn astudio Cemeg yng Ngholeg Lincoln mawreddog y Brifysgol o fis Medi.

Sicrhaodd Daniel, o Fwcle, gymwysterau Safon Uwch mewn Mathemateg, Busnes, Cemeg a Bagloriaeth Cymru ac mae’n edrych ymlaen at y bennod nesaf yn ei addysg.

Gan ddiolch i’w fam Cathy, ei dad Kenny a’i chwaer Charlotte am eu cefnogaeth, roedd y bachgen 18 oed yn canmol staff Canolfan Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria – lle cafodd ei enwi’n ddiweddar yn Fyfyriwr y Flwyddyn – am eu rhan yn ei lwyddiant academaidd.

Dywedodd Daniel, sy’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Elfed: “Rydw i’n falch iawn o fod yn mynychu Prifysgol Rhydychen. Roedd y broses yn un drylwyr, ond mae gen i’r graddau sydd eu hangen arnaf ac rydw i’n edrych ymlaen at ddechrau arni.

“Cefais dri chyfweliad ar-lein, felly ni chefais gyfle i brofi’r ddinas a’r brifysgol yn bersonol, ond o sgrin cyfrifiadur yma yng Ngogledd Cymru! Rydw i wedi bod yno ers hynny ac mae’n anhygoel, felly rydw i’n edrych ymlaen ato.”

Ar ôl treulio wythnos ar leoliad gwaith gyda’r cwmni biofferyllol blaenllaw AstraZeneca yn Macclesfield, mae Daniel yn fwy penderfynol nag erioed i ddilyn gyrfa yn y sector.

Mae’n anelu am swydd ym maes peirianneg prosesu neu gemegol ond mae’n cyfaddef nad oedd ei daith i ddechrau yn y diwydiant yn un syml.

“Dydw i ddim yn siŵr sut es i o bêl-droed i gemeg. Rydw i’n meddwl mai’r cariad at arbrofion a gwyddoniaeth oedd o,” meddai.

“Mi wnes i ddechrau mwynhau’r pwnc yn fawr ar ôl y pandemig tua diwedd fy amser yn yr ysgol uwchradd, er mod i wedi cael ychydig o drafferth ychydig cyn hynny. Fe wnes i weithio i’n galetach byth i gael fy hun ar y blaen a gwella a gwella nes i mi sylweddoli ei fod yn ddiddorol ac yn faes y gallwn i lwyddo ynddo yn y tymor hir.”

Ychwanegodd Daniel: “Mae fy nheulu bob amser wedi bod yn gefnogaeth wych i mi, ers plentyndod pan fydden nhw’n fy ngyrru i draw i Fanceinion ar gyfer hyfforddiant a gemau. Maen nhw wedi aberthu llawer.

“Maen nhw wrth gwrs yn falch fy mod i wedi cyrraedd Rhydychen, ac maen nhw wedi chwarae rhan fawr ynddo. Rydw i’n eithaf gwylaidd, ac rydw i eisiau cyrraedd yno a dechrau arni. Ond rydw i’n mynd i’w fwynhau hefyd!

“Rydw i wedi cael cymaint o help gan Goleg Cambria bob cam o’r ffordd. Mae’r darlithwyr, yr anogwyr cynnydd a’r holl staff yn wych. Maen nhw i gyd wedi cael effaith gadarnhaol ar fy amser yno ac rydw i’n ddiolchgar iawn i bob un ohonyn nhw.”

Bu Pennaeth Chweched Glannau Dyfrdwy, Miriam Riddell, yn llongyfarch Daniel nid yn unig ar ei ganlyniadau arholiadau, ond ar fod yn un o’r myfyrwyr “caredig a mwyaf cymwynasgar” mae wedi ei weld erioed.

“Mae Daniel yn ymgorffori popeth sy’n dda am bobl ifanc. Mae’n boblogaidd gyda staff a myfyrwyr ac mae’n fwy gweithgar nag unrhyw ddysgwr arall rydw i erioed wedi dod ar ei draws,” ychwanegodd.

“Mae’n haeddu ei le ym Mhrifysgol Rhydychen gan ei fod yn llawn cymhelliant ac yn gweithio mor galed. Mae o bob amser yn mynd yr ail filltir.

“Roedd Daniel bob amser i’w weld o gwmpas y coleg yn helpu myfyrwyr arall. Fo ydy’r person neisiaf erioed. Dydy o erioed wedi methu gwers, ac mae o mor gwrtais. Bydd yn chwith ar ei ôl o, ond rydyn ni’n dymuno pob llwyddiant iddo ar gyfer y dyfodol.”

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost