Bu Aelod Seneddol Torfaen yn cyfarfod dysgwyr yn Wrecsam wrth iddyn nhw gael eu graddau, ochr yn ochr â phrif weithredwr Cambria, Yana Williams
Ymhlith y rhai i gyflawni eu marciau delfrydol oedd Rhian Jones, a gafodd raddau A* mewn Cemeg a Bioleg, ac A mewn Mathemateg.
Yn dilyn ei dwy flynedd “ardderchog” yn y coleg, bydd yn mynd ymlaen i astudio Gwyddorau Naturiol yng Ngholeg Prifysgol Llundain.
Yn y cyfamser, cafodd Samuel Childs raddau A* mewn Mathemateg a Mathemateg Bellach, A mewn Ffiseg a B yng nghymhwyster Bagloriaeth Cymru.
Bydd yn mynd i Brifysgol Caerhirfryn i gychwyn ar gwrs gradd mewn Ffiseg Ddamcaniaethol.
“Rydw i mor ddyledus i’r staff a’m darlithwyr i gyd, maen nhw’n bobl hollol anhygoel, a galla’i ddim diolch digon iddyn nhw,” meddai.
Rhai eraill a fydd yn mynd ymlaen i addysg uwch yw Matt Smart, cyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Darland a gyflawnodd raddau A mewn Mathemateg, Cyfrifiadureg a Bagloriaeth Cymru, a B mewn Ffiseg, gan sicrhau ei le ym Mhrifysgol Caerefrog i astudio Ffiseg gydag Astroffiseg; tra bydd Ellis Eccleston yn mynd i Brifysgol Caer i astudio gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg a Hanes ar ôl gael A* mewn Hanes a graddau A mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Astudiaethau Ffilm.
Mae’r clod olaf yn mynd i Freya Owen, a symudodd ymlaen o gymwysterau TGAU gyda Gwasanaethau Cyfeirio Disgyblion Wrecsam (Haulfan) i gael canlyniadau anhygoel a lle ym Mhrifysgol Rhydychen i astudio Hanes Celf.
Cafodd Freya, sy’n dod o Wrecsam, A* mewn Daearyddiaeth, A mewn Astudiaethau Crefyddol, ac A yn y Clasuron.
Gan gyfaddef ei bod yn teimlo’n “swp sâl” cyn agor ei chanlyniadau, dywedodd: “Rydw i mor hapus ac mor ddiolchgar i fy chwaer, fy nheulu a’m ffrindiau a phawb yn y coleg am fy helpu i gyrraedd fan hyn.”
Yn ystod ei hymweliad, cafodd Mrs Neagle ei thywys o amgylch y ganolfan iechyd a llesiant newydd gwerth £14m sy’n cael ei hadeiladu yn Iâl ar hyn o bryd.
Ewch i www.cambria.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth am ganlyniadau Safon Uwch a BTEC a’r newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf o Goleg Cambria.