Home > Myfyrwyr Newydd 24/25 > Cymorth Myfyrwyr > Manylion Cyswllt y Coleg
Yng Ngholeg Cambria, rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein holl fyfyrwyr trwy bob cam o’u taith coleg.
P’un a ydych yn pontio’n syth o’r ysgol neu’n dychwelyd i addysg, mae ein Timau Gwasanaethau Myfyrwyr yma i’ch cynorthwyo gyda materion personol ac ariannol, yn ogystal â darparu arweiniad ar gyrsiau a chyfleoedd gyrfa. Rydym yn deall yr heriau unigryw sy’n wynebu gofalwyr sy’n oedolion, gofalwyr ifanc, a’r rhai sydd â Phrofiad Gofal, ac rydym wedi ymrwymo i gynnig y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i ffynnu.
Cysylltwch â ni – rydyn ni yma i’ch helpu chi i lwyddo.
Anfonwch e-bost atom ni
gwasanaethaumyfyrwyr@cambria.ac.uk
Mae ein llyfrgelloedd coleg yn ganolfannau dysgu a chymunedol bywiog.
P’un a oes angen cymorth arnoch gyda’ch astudiaethau, adnoddau ar gyfer gwaith cwrs, neu lle tawel i ganolbwyntio, mae ein tîm cyfeillgar yma i’ch cefnogi. Rydym yn cynnig ystod eang o lyfrau a chasgliad digidol cynhwysfawr, gan gynnwys un o gasgliadau e-lyfrau mwyaf Cymru, sy’n addas ar gyfer pob arddull ddysgu. Gyda digon o gyfrifiaduron personol a Chromebooks ar gael, ar y safle ac i’w benthyg, bydd gennych yr offer sydd eu hangen arnoch i lwyddo.
Yn cael trafferth gydag aseiniadau, arholiadau neu derfynau amser?
Mae ein hwyluswyr sgiliau ymroddedig yn barod i roi arweiniad un i un i’ch helpu i aros yn drefnus a chyflawni eich nodau academaidd. Cysylltwch â ni a darganfod sut y gallwn eich helpu ar eich taith addysgol.
Anfonwch e-bost atom ni
llyfrgell@cambria.ac.uk
Mae Siop Swyddi Cambria yn wasanaeth hanfodol sydd ar gael ar holl safleoedd Cambria, sy’n wedi ymrwymo i wella sgiliau cyflogadwyedd ein myfyrwyr.
P’un a ydych chi’n ceisio cyngor ar CV, llythyrau eglurhaol, chwilio am swyddi, prentisiaethau, neu awgrymiadau cyfweliad, mae ein Siop Swyddi yn cynnig sesiynau galw heibio ac apwyntiadau 1-1 i gefnogi eich taith gyrfa. Rydym hefyd yn cynnal nifer o weithdai a digwyddiadau gyrfaoedd drwy gydol y flwyddyn, gan eich cysylltu â chyflogwyr lleol a rhanbarthol ac agor drysau i brofiad gwaith gwerthfawr a phrentisiaethau.
Mae ein Siop Swyddi yn hyrwyddo cyfleoedd dilyniant yn barhaus, gan sicrhau bod ein myfyrwyr a’r gymuned leol yn ffynnu. Darganfyddwch sut y gallwn eich helpu i gymryd y cam nesaf tuag at eich gyrfa yn y dyfodol.
Anfonwch e-bost atom ni
siopswyddi@cambria.ac.uk
Yng Ngholeg Cambria, rydym wedi ymrwymo i feithrin iechyd meddwl a llesiant ein dysgwyr. Rydym yn deall yr effaith y gall iechyd meddwl ei chael ar eich profiad yn y coleg.
Mae ein Tîm Iechyd Meddwl a Llesiant ymroddedig yma i ddarparu cefnogaeth ac adnoddau cynhwysfawr sydd wedi’u teilwra i hyrwyddo eich llesiant a’ch gwydnwch. Mae’r gwasanaethau’n cynnwys cymorth gan staff llesiant sy’n ystyriol o drawma ar draws ein holl safleoedd, trosglwyddiadau pwrpasol i mewn ac allan o’r coleg, a Hybiau Llesiant sy’n cynnig mannau diogel ar gyfer ymlacio a gweithgareddau ystyriol.
Mae ein Anogwyr Gwytnwch a’n Hymgynghorwyr Llesiant ar gael i’ch helpu i oresgyn rhwystrau i ddysgu, cynnig cwnsela wyneb yn wyneb, sesiynau 1:1 wedi’u teilwra, a gweithgareddau trwy gydol y flwyddyn. P’un a yw’n rheoli pryder sy’n gysylltiedig â chymdeithasu, mynediad i’r coleg, neu deithio, rydym yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd trwy weithio amlasiantaethol a chyfeirio cymdeithasol.
Darganfyddwch sut y gallwn eich cynorthwyo i gynnal iechyd meddwl da a chyflawni eich nodau academaidd.
Anfonwch e-bost atom ni
llesiant@cambria.ac.uk
Yng Ngholeg Cambria, rydym yn deall pwysigrwydd mynediad hawdd i addysg. Rydym yn cynnig opsiynau cludiant cyfleus o wahanol leoliadau ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru ac i Loegr ar gyfer ein dysgwyr llawn amser, Addysg Bellach ac Addysg Uwch sy’n byw o leiaf tair milltir o’r Coleg.
Mae ein gwasanaeth cludiant yn darparu ffordd hygyrch ac am ddim i’n cyrraedd, yn amodol ar gymhwysedd. Os ydych yn ansicr ynghylch eich cymhwyster neu os oes angen cymorth arnoch i ddod o hyd i’ch llwybr, mae ein tîm yn y Gwasanaethau Myfyrwyr yma i helpu. P’un ai dros y ffôn neu’n bersonol, gallwn ddarparu’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i deithio’n ddiogel i’r coleg ac oddi yno.
Archwiliwch ein hamserlenni bysiau coleg a’n mannau casglu gan ddefnyddio’r lawrlwythiadau sydd ar gael. Os nad yw’ch lleoliad wedi’i restru neu os oes gennych ymholiadau cludiant penodol, rydym yma i’ch helpu.
Anfonwch e-bost atom ni
cludiant@cambria.ac.uk
Yng Ngholeg Cambria, eich diogelwch a’ch llesiant ar y safle ac oddi ar y safle yw ein prif flaenoriaethau. Fel myfyriwr, os ydych chi byth yn teimlo mewn perygl neu os oes gennych bryderon, mae ein staff ymroddedig yma i’ch cefnogi. Mae hyn yn cynnwys cael cymorth gan ein Tîm Diogelu, sydd wedi ymrwymo i sicrhau eich diogelwch a rhoi’r cymorth angenrheidiol.
Fel rhan o’n hymrwymiad, rydym wedi gweithredu Strategaeth Prevent gadarn i ddiogelu pob myfyriwr rhag dylanwad safbwyntiau eithafol, grwpiau terfysgol a radicaleiddio. Mae ein strategaeth wedi’i gwreiddio mewn addysg, parch a darparu amgylchedd diogel lle gall myfyrwyr drafod materion yn agored, gofyn am arweiniad, a rhannu eu safbwyntiau.
Drwy’r ymdrechion hyn, ein nod yw grymuso unigolion gyda’r wybodaeth i ddiogelu eu hunain ac eraill.
Anfonwch e-bost atom ni
diogelu@cambria.ac.uk
Mae Caplaniaeth yng Ngholeg Cambria wedi ymrwymo i feithrin cymuned gysylltiedig a gwerthfawr i’r holl staff a myfyrwyr. Gan weithio ochr yn ochr â’n timau cymorth, mae’r Gaplaniaeth yn sicrhau bod ein coleg yn amgylchedd cefnogol a chynhwysol ar gyfer dysgu a gweithio. Rydym yn croesawu eich syniadau a’ch awgrymiadau ar sut y gallwn wella ac archwilio ffyrdd newydd yn barhaus.
Darganfyddwch sut mae Caplaniaeth yn cyfoethogi profiad y coleg ac yn cefnogi eich taith.
Anfonwch e-bost atom ni
caplaniaeth@cambria.ac.uk