E-chwaraeon

Mae’r diwydiant E-chwaraeon yn ddiwydiant byd-eang, dynamig, cyffrous, sy’n tyfu’n gyflym. Mae ein cyrsiau E-chwaraeon yn cynnig y cyfle i chi ddysgu am y sector a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar weithwyr y dyfodol yn y diwydiant.

Mae ystod eang o gyfleoedd gyrfa amrywiol, cyffrous a gwerth chweil ar gael i chi mewn nifer o sefydliadau yn lleol, yn genedlaethol, ac yn rhyngwladol. Mae gyrfa mewn E-chwaraeon yn gofyn am ddatblygu llawer o sgiliau, fel arwain, datrys problemau, meddwl yn strategol, cyfathrebu, gwaith tîm, a sgiliau dadansoddi.

Bydd eich tiwtoriaid yn dysgu’r sgiliau a fydd yn eich paratoi ar gyfer byd cyflym, deinamig E-chwaraeon, a chewch gyfleoedd i ymarfer y sgiliau hyn yn ystod eich amser ar y cwrs.

IMG_1878 (3)

Kirsty Parr

Wedi Astudio – Sgiliau Sylfaen

Ar Hyn o Bryd – Astudio cwrs Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

“Fe wnes i ddewis astudio’r cwrs Sgiliau Sylfaen gan na wnes i ennill fy TGAU yn yr ysgol ac roedd angen man cychwyn arna’ i i barhau mewn addysg.

“Mae’r cwrs hwn wedi bod o fudd i mi mewn llawer mwy o ffyrdd nag roeddwn i erioed wedi meddwl y byddai. Mae wedi fy helpu i fynd yn ôl i addysg heb deimlo fy mod wedi fy llethu gormod gyda’r llwyth gwaith. Mae’r cwrs hefyd wedi gwella fy hyder yn aruthrol ac wedi tawelu fy mhryder ar yr un pryd.

“Mae’r holl staff Sgiliau Sylfaen yn wirioneddol ddeallus, ac maen nhw bob amser yn meddwl am ffyrdd newydd y gallan nhw helpu pob myfyriwr fel unigolyn i gyrraedd eu nodau personol eu hunain a’u nodau tuag at eu dyfodol a’u haddysg. Aeth y staff Sgiliau Sylfaen yr ail filltir drosof i, gan fy ngalluogi i basio fy Mathemateg a Saesneg a’m gwthio i fynd yn syth i Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2, nad oeddwn i ar y pryd yn meddwl ei fod yn bosibl gan fy mod yn llawn hunan amheuaeth. Wnaeth y staff ddim rhoi’r ffidil yn y to arna i ac fe lwyddon nhw i fy helpu i gael lle ar y cwrs rydw i’n ei astudio ar hyn o bryd.”

Dangos Rhagor
frankie - Yale 6 (1)

Frankie McCamley

Wedi Astudio – Saesneg, Drama, Mathemateg a Ffrangeg Safon Uwch

Ar Hyn o Bryd – Cyflwynydd a Gohebydd Newyddion ar gyfer y BBC

“Doeddwn i ddim yn siŵr iawn beth roeddwn i eisiau ei wneud yn y dyfodol, felly fe wnes i ddewis pynciau gwahanol i’w hastudio ar lefel Safon Uwch. Dw i rŵan yn gweithio i’r BBC fel Cyflwynydd a Gohebydd Newyddion, ac fe wnaeth astudio yn Chweched Iâl roi’r hyder a’r sgiliau i mi fynd i’r brifysgol. Dw i wedi gwneud ffrindiau da, wedi cael athrawon gwych na fydda’ i fyth yn eu hanghofio, ac amser gwych yn Wrecsam!

“Dwi’n edrych yn ôl ar fy amser yn Iâl gyda balchder a hoffter a fydda’i fyth yn ei anghofio!”

Dangos Rhagor
Pethau Defnyddiol i'w Lawrlwytho

Oes Gennych Chi Gwestiwn?

Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Previous slide
Next slide
Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
06/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored – Llaneurgain
16/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost