Ymunodd y grŵp o bedwar – Zoe Boothman, Sarah Astbury, Gracie Gee, ac Andrei-Alexandru Bordea – â thîm Ystadau’r coleg i gasglu sbwriel ar draws safleoedd Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy a Glannau Dyfrdwy i nodi Diwrnod Glanhau’r Byd.
Gyda’i gilydd, fe wnaethon nhw gasglu mwy na 12kg o ddeunyddiau anailgylchadwy a rhai ailgylchadwy, ar ôl cael eu cefnogi gan y cwmni rheoli gwastraff Veolia, sydd â safleoedd ledled y DU gan gynnwys Cilgwri ac Ellesmere Port.
Diolchodd Arbenigwr Cynaliadwyedd ac Amgylcheddol Cambria, Sophie Hughes-Saunier, iddynt am roi offer casglu sbwriel, sachau sbwriel a PPE (Offer Diogelu Personol) i’r grŵp, ac am ymuno â nhw ar y diwrnod.
“Casglodd y tîm 9kg o wastraff anailgylchadwy a 3kg o ddeunyddiau ailgylchadwy mewn dim ond 30 munud,” ychwanegodd.
“Diolch i bawb a gymerodd ran, ac i Veolia am eu rhodd garedig a’n helpu gyda’r gwaith glanhau.”
Am y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk.
Ewch i wefan World Cleanup Day 2024 a Hafan – Cadwch Gymru’n Daclus